Adroddiad Cryno'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol Cysgodol i'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol

Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol Cysgodol – Cefndir

1.1  Chwaraeodd y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol Cysgodol (y Cyngor) rôl bwysig yn y gwaith o lywio ymateb Llywodraeth Cymru i bandemig COVID-19. Daeth y Cyngor â phartneriaid cymdeithasol (25 ohonynt i gyd) ynghyd o undebau llafur, cyflogwyr datganoledig, y sector preifat yn ogystal â Chomisiynwyr Cymru er mwyn deall heriau COVID-19 yn well. Roedd nifer o uwch-swyddogion Llywodraeth Cymru yn bresennol yng nghyfarfodydd y Cyngor hefyd naill i gefnogi Gweinidog neu roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cyngor am eu meysydd polisi neu'u cyfrifoldebau gweithredol.

 

1.2  Drwy gydol y pandemig, cyfarfu'r Cyngor bob pythefnos cyn newid i gyd-fynd â'r cylch adolygu tair wythnos ac weithiau bu'n rhaid iddo gyfarfod ar fyr rybudd er mwyn ymateb i faterion a oedd yn codi. Y Prif Weinidog oedd y cadeirydd yn ystod y rhan fwyaf o gyfarfodydd y Cyngor ond ar yr adegau hynny pan na allai fod yn bresennol, byddai Gweinidog arall yn cadeirio ar ei ran.

 

1.3  Gweithiodd y Cyngor fel fforwm trafod strategol gan gynnig sianel bwysig i rannu gwybodaeth a gofyn am gyngor. Yn dilyn y trafodaethau hyn, cyfarfu swyddogion Llywodraeth Cymru â phartneriaid cymdeithasol y tu allan i'r Cyngor er mwyn gwneud gwaith manylach mewn amrywiaeth o feysydd polisi. Er enghraifft, trafodwyd y canlynol gan y Cyngor:

·         canllawiau ar ailagor y sectorau manwerthu a thwristiaeth

·         cymorth i fusnesau

·         datblygu'r rhaglen Profi, Olrhain, Diogelu

·         diogelwch gweithwyr

·         ailagor ysgolion

·         cyflwyno brechiad/brechiad atgyfnerthu COVID-19

·         adfer ar ôl COVID-19

1.4  Un o'r agweddau pwysicaf am y Cyngor oedd ei fod yn galluogi partneriaid cymdeithasol i chwarae rôl weithredol wrth lywio'r ymateb i COVID-19 wrth i Lywodraeth Cymru wneud penderfyniadau.

 

1.5  Mae'r canlynol yn rhoi crynodeb o bob un o gyfarfodydd y Cyngor yn ystod pandemig COVID-19. Mae'n nodi'r pwyntiau trafod allweddol a'r camau gweithredu o gyfarfod ffurfiol cyntaf y Cyngor i drafod y pandemig ar 14 Mai 2020 nes i'r Cyngor ddod i ben ar 14 Gorffennaf 2022. Cyfarfodydd rhithwir oedd y rhain i gyd.

 

1.6  Dylid nodi y cyfarfu'r Cyngor hefyd ar 23 Mawrth 2020 i gynnal trafodaeth frys ynghylch COVID-19 pan ddechreuodd y pandemig ddod i'r amlwg gyntaf. Fel cyfarfod brys, y nod oedd clywed safbwyntiau cychwynnol partneriaid cymdeithasol ar yr argyfwng a oedd yn datblygu ac ni chadwyd cofnodion gan swyddogion.


 


Cyfarfodydd y Cyngor (14 Mai 2020 – 14 Gorffennaf 2022) Crynodeb o'r Pwyntiau Trafod Allweddol

Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol Cysgodol – 14 Mai 2020

Eitem

 

Gweinidog Arweiniol

Trafodaeth

1.

COVID-19: Llacio Cyfyngiadau Symud

Amlinellodd y Prif Weinidog y trefniadau ar gyfer adolygu cyfyngiadau symud

Prif Weinidog

Cadarnhaodd y Prif Weinidog y byddai Llywodraeth Cymru'n cyhoeddi ei map ffordd yn amlinellu'r cynllun ar gyfer llacio darpariaethau'r cyfyngiadau symud yng Nghymru. Roedd partneriaid yn cefnogi'r dull gofalus o lacio darpariaethau'r cyfyngiadau symud a phwysigrwydd gwaith partneriaeth gymdeithasol.

2.

Protocol Drafft COVID-19: Dychwelyd i'r Gwaith yn Ddiogel

 

Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru

Nododd yr aelodau fod angen i'r protocol cael ei ddrafftio er budd cyflogwyr a chyflogeion, gan ganolbwyntio'n benodol ar weithwyr yn y categori gwarchod. Pwysleisiwyd hefyd ei bod yn bwysig ailagor busnesau'n raddol er mwyn iddynt gael yr amser sydd ei angen arnynt i ddechrau gweithredu'n ddiogel ac yn effeithiol.

3.

COVID-19: Cefnogi Busnesau, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gweithwyr drwy'r Adferiad

Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru

 

Nododd y Gweinidog swm y cyllid y mae Llywodraeth Cymru'n ei ddarparu, gan gynnwys y Gronfa Cadernid Economaidd. Roedd yr aelodau'n cefnogi dull gweithredu'r Llywodraeth yn gyffredinol ond gofynnwyd am fwy o eglurder ynghylch y sector gofal cymdeithasol.

4.

COVID-19: Rôl Barhaus Partneriaeth Gymdeithasol

Prif Weinidog

 

 

Roedd cytundeb cyffredinol bod y Cyngor wedi ychwanegu gwerth drwy ei amrywiaeth ehangach o aelodau.

 

 

 

 

 

 

Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol Cysgodol – 28 Mai 2020

Eitem

 

Gweinidog Arweiniol

Trafodaeth

1.

COVID-19: Adolygu Cyfyngiadau Symud

Prif Weinidog

Amlinellodd y Prif Weinidog y cyfraddau heintio a phwysigrwydd atal yr haint rhag cael ei drosglwyddo yn y gymuned. Cadarnhaodd y byddai cyhoeddiad yn cael ei wneud yn fuan ynghylch darpariaethau'r cyfyngiadau symud.

2.

COVID-19: Diweddariad ar y Canllawiau Dychwelyd i'r Gwaith

Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru

 

Cadarnhaodd y Gweinidog fod canllawiau lefel uwch Llywodraeth Cymru i weithleoedd, sy'n seiliedig ar Gyfraith Cymru, wedi cael eu rhannu ag aelodau er gwybodaeth. Eglurodd y byddai canllawiau mwy penodol yn cael eu datblygu ar gyfer diwydiannau/sectorau unigol. Cynigiodd yr undebau llafur y dylid sefydlu Fforwm Iechyd a Diogelwch Cenedlaethol i fynd i'r afael â COVID-19; gofynnwyd am fwy o fanylion. Roedd ymrwymiad i ystyried anghenion grwpiau sy'n agored i niwed a chyfraith cydraddoldeb yn fanylach yn y canllawiau.

3.

COVID-19: Profi, Olrhain, Diogelu

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

 

Amlinellodd y Gweinidog y dull Profi, Olrhain, Diogelu. Yn ystod trafodaethau, dywedwyd ei bod yn bwysig datblygu canllawiau ar gyfer brigiad o achosion mewn gweithleoedd. Cadarnhaodd y Gweinidog y byddai camau olrhain cysylltiadau'n helpu Cymru i gefnu ar y cyfyngiadau symud nes bod brechlyn yn cael ei ddatblygu ac y byddai'r Cyngor yn cael mwy o sesiynau briffio ar Brofi, Olrhain, Diogelu.

 

Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol Cysgodol – 11 Mehefin 2020 

Eitem

 

Gweinidog Arweiniol

Trafodaeth

1.

COVID-19 – Blaenoriaethau ar gyfer yr Adolygiad Nesaf o Reoliadau

Prif Weinidog

 

 

 

 

Cafwyd diweddariad gan y Prif Weinidog a ddywedodd y byddai cyhoeddiad yn cael ei wneud yn fuan ar lacio rhai o'r cyfyngiadau symud mewn ymateb i gyfraddau trosglwyddo is ond y byddai'r angen i aros yn lleol yn parhau.

Mynegwyd pryderon nad oedd digon o gynnydd yn cael ei wneud i sefydlu'r Fforwm Iechyd a Diogelwch Cenedlaethol. Cadarnhaodd y Prif Weinidog fod gwahoddiadau wedi cael eu hanfon at ddarpar aelodau. Pwysleisiwyd ei bod yn bwysig cyfleu negeseuon clir ynghylch mesurau llacio ac ymrwymodd Llywodraeth Cymru i gyhoeddi canllawiau ar gyfer y sector manwerthu.

2.

COVID-19 – Y cam llacio nesaf ar gyfer ysgolion

 

 

 

Y Gweinidog Addysg

 

 

 

Cyfeiriodd y Gweinidog at y canllawiau dychwelyd yn raddol a gyhoeddwyd. Mynegodd yr undebau llafur bryder ynghylch ailagor. Amlinellwyd y cyngor gwyddonol sy'n sail i'r dull gweithredu a chytunwyd y byddai'r Prif Swyddog Meddygol yn siarad yn uniongyrchol â'r undebau am eu pryderon. Pwysleisiodd y Gweinidog fod hyblygrwydd yn bwysig a chadarnhaodd fod rhestr wirio o faterion diogelwch allweddol wedi cael ei datblygu hefyd.

3.

Diweddariad ar Brofi, Olrhain, Diogelu

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

 

 

 

 

Cadarnhaodd y Gweinidog fod capasiti Profi, Olrhain, Diogelu wedi cynyddu. Codwyd pryderon am amodau cyflog i weithwyr sy'n gorfod hunanynysu, am ba hyd y byddai'r rhaglen Profi, Olrhain, Diogelu ar waith a'r honiadau bod rhai cyflogwyr yn defnyddio dyfeisiau profi COVID-19 sydd heb eu trwyddedu. Cadarnhaodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ei fod wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU ynghylch cyflog, y byddai'r rhaglen Profi, Olrhain, Diogelu ar waith hyd nes bod brechlyn yn cael ei ddatblygu a gofynnodd am fwy o wybodaeth am unrhyw ddefnydd posibl o brofion heb eu trwyddedu.

 

Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol Cysgodol – 25 Mehefin 2020 

Eitem

 

Gweinidog Arweiniol

Trafodaeth

1.

COVID-19 – Adolygiad o Gyfyngiadau Symud – I'w Drafod

Prif Weinidog

 

 

 

 

Cafwyd diweddariad gan y Prif Weinidog ar newidiadau i gyfyngiadau symud ar gyfer sectorau penodol a chadarnhaodd y byddai cymaint o rybudd â phosibl yn cael ei roi ynghylch unrhyw gynlluniau ailagor. Cadarnhaodd

fod cyfarfod cychwynnol i drafod y Fforwm Iechyd a Diogelwch Cenedlaethol wedi cael ei drefnu  a chyfarfod sylfaen ar gyfer y Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol. Pwysleisiwyd yr angen am ganllawiau clir, amserlenni a phwyll yn ystod trafodaethau. Pwysleisiodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol fod y canllawiau i gyd yn fyw.

2.

COVID-19 - Adferiad Economaidd – I'w Drafod

Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru

Amlinellodd y Gweinidog y 4 prif faes yn null Llywodraeth Cymru o ailadeiladu'r economi. Cafodd y dull gweithredu ei gefnogi gan y sector preifat. Pwysleisiodd partneriaid fod datgarboneiddio yn bwysig er mwyn adfer. Cytunwyd y byddai'r sector preifat a Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'i gilydd i sicrhau bod busnesau'n cael negeseuon cyson ynghylch datgarboneiddio.

3.

COVID-19 – Cyllideb Atodol Llywodraeth Cymru – Er Gwybodaeth

Cyfarwyddwr Cyllid (Llywodraeth Cymru)

 

 

Cadarnhaodd Cyfarwyddwr Cyllid Llywodraeth Cymru fod cyllideb atodol gyntaf 2020-21 wedi cael ei chymeradwyo gan y Senedd a'i bod yn amlinellu sut y byddai Llywodraeth Cymru'n ymateb i'r pandemig.

 Amlinellodd y prif feysydd gwariant yn y gyllideb: Iechyd a Gwasanaethau Cyhoeddus, yr economi, y trydydd sector/Cymunedau a Thrafnidiaeth.

 

Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol Cysgodol – 9 Gorffennaf 2020

 

Eitem

 

Gweinidog Arweiniol

Trafodaeth

1.

COVID-19 – Adolygiad o Gyfyngiadau Symud – I'w Drafod

Prif Weinidog

 

 

Cadarnhaodd y Prif Weinidog y byddai modd parhau i lacio cyfyngiadau symud am fod y gyfradd heintio wedi gostwng. Byddai Llywodraeth Cymru'n parhau i lobïo Llywodraeth y DU am gymorth ychwanegol ar gyfer gwariant ar seilwaith. Pwysleisiodd y sector preifat fod angen dyddiadau penodol ar gyfer llacio'r cyfyngiadau ar fwyta dan do. Pwysleisiwyd effaith y cyfyngiadau symud ar blant a'r angen i ystyried ailagor cyfleusterau chwarae. Galwodd yr undebau llafur am fwy o eglurder ynghylch swyddogaethau'r Fforwm Iechyd a Diogelwch Cenedlaethol. Cytunodd y Prif Weinidog gyhoeddi datganiad yn cefnogi busnesau.

2.

COVID-19 – Canllawiau ar Dwristiaeth a Diwylliant – Er Gwybodaeth

 

 (TUC Cymru) a'r Cyfarwyddwr Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth (Llywodraeth Cymru)

Tynnodd y cyflwynwyr sylw at y graddau y defnyddiwyd gwaith partneriaeth gymdeithasol i ddatblygu canllawiau ar gyfer y sectorau diwylliant, chwaraeon a thwristiaeth. Pwysleisiwyd bod didwylledd a gonestrwydd wedi bod yn ganolog i'r trafodaethau ar bob lefel, a bod hyn wedi hwyluso ymateb mwy effeithiol i'r pandemig.  

3.

COVID-19 – Blaenoriaethau Tai - Er Gwybodaeth

Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Pwysleisiodd y Gweinidog bwysigrwydd tai i'r adferiad ar ôl COVID-19 a thynnodd sylw at y gwaith partneriaeth da sy'n digwydd gydag awdurdodau lleol i ddarparu llety i grwpiau agored i niwed. Wrth drafod, pwysleisiwyd pwysigrwydd datblygu cartrefi hygyrch a chynaliadwy a'r angen i ddatblygu sgiliau addas/prentisiaethau i gefnogi'r sector tai. Croesawodd y Gweinidog drafodaeth bellach o fewn y fforymau amrywiol y mae'n eu cadeirio. 

 

 

Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol Cysgodol – 20 Gorffennaf 2020 

Eitem

 

Gweinidog Arweiniol

Trafodaeth

1.

COVID-19 – Adolygiad o Gyfyngiadau Symud – I'w Drafod

Prif Weinidog

 

 

Cadarnhaodd y Prif Weinidog y byddai camau llacio yn y dyfodol yn pwysleisio ar ryddid unigolion. Cyfeiriodd yr undebau llafur at ddiogelwch mewn ysgolion yn barod ar gyfer y tymor ysgol newydd a phryderon y byddai'r haint yn cael ei drosglwyddo rhwng plant. Pwysleisiodd y sector preifat ei bod yn bwysig cael dull gweithredu unedig ledled y DU ar gyfer busnesau a bod angen negeseuon clir. Gofynnodd y Prif Weinidog i swyddogion roi data i'r Cyngor ar lefelau trosglwyddo ymhlith plant dros 12 oed. 

2.

COVID-19 - Adferiad Economaidd – I'w Drafod

Y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd

Amlinellodd y Cwnsler Cyffredinol effaith ddeuol delio â'r broses Bontio Ewropeaidd a'r pandemig. Cadarnhaodd mai cyfyngedig fu'r trafodaethau â Llywodraeth y DU a phwysleisiodd y gwahaniaethau sylfaenol rhwng y ddwy weinyddiaeth. Anogwyd yr aelodau i ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth y DU ar y Farchnad Fewnol. 

3.

COVID-19 – Cyllideb Atodol Llywodraeth Cymru – Er Gwybodaeth

– Dirprwy Gyfarwyddwr Llywodraeth Cymru - Cyflogadwyedd a Sgiliau

Cafwyd manylion gan y Dirprwy Gyfarwyddwr am yr amrywiaeth o gymorth sy'n cael ei roi i ddatblygu sgiliau a hyfforddiant a chadarnhaodd £40 miliwn ychwanegol o gymorth dal i fyny ar gyfer dysgwyr y mae'r cyfyngiadau symud wedi cael effaith andwyol arnynt a chymorth cyflogadwyedd a sgiliau. Yn ystod trafodaethau, pwysleisiwyd anghenion y grwpiau mwyaf agored i niwed a phwysigrwydd sicrhau y byddai hyfforddiant yn arwain at swyddi o ansawdd da. Gofynnodd y Dirprwy Gyfarwyddwr am gymorth cyflogwyr i greu cyfleoedd swyddi.

 

Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol Cysgodol – 3 Awst 2020 

Eitem

 

Gweinidog Arweiniol

Trafodaeth

1.

COVID-19: Adolygiad o Gyfyngiadau Symud – I'w Drafod

Prif Weinidog

 

Pwysleisiodd y Prif Weinidog bod angen parhau i fod yn bwyllog a chadarnhaodd y byddai'r cyfnod adolygu nesaf yn canolbwyntio ar ailagor ysgolion yn ddiogel. Cyfeiriodd yr unedau llafur at rai cyflogwyr nad oeddent yn cydymffurfio â mesurau diogelwch a'r effaith ar bobl yn y categori gwarchod, yn ogystal ag achosion posibl o gamddefnyddio'r Cynllun Ffyrlo. Cadarnhaodd y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd ei bod wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU ynghylch achosion o gamddefnyddio'r Cynllun Ffyrlo a gofynnodd i'r undebau llafur gyflwyno unrhyw enghreifftiau eraill iddi.

2.

Cyhoeddiadau Cyllideb Llywodraeth y DU – Goblygiadau i Lywodraeth Cymru – Er Gwybodaeth

Y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd

Pwysleisiodd y Gweinidog yr heriau ariannol sy'n wynebu Cymru a rhoddodd fanylion am y dyraniadau cyllid newydd o Gyllideb Llywodraeth Cymru. Trafodwyd cymorth ar gyfer y diwydiannau gweithgynhyrchu, hedfanaeth ac awyrofod a chroesawodd y Gweinidog fwy o ymgysylltu â phartneriaid ynghylch y Gyllideb.

3.

COVID-19 Diweddariad ar Brofi, Olrhain, Diogelu – Er Gwybodaeth

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cafwyd diweddariad gan y Gweinidog ar olrhain cysylltiadau a chadarnhaodd fod adnoddau ychwanegol yn cael eu clustnodi i ddatblygu seilwaith cyn yr hydref a'r gaeaf. Trafodwyd pwysigrwydd brechiadau rhag y ffliw, gan gynnwys y gost afresymol i rai gweithwyr. Croesawodd y Gweinidog drafodaeth bellach â phartneriaid ar raglen y ffliw.

 

Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol Cysgodol – 17 Awst 2020 

Eitem

 

Gweinidog Arweiniol

Trafodaeth

1.

COVID-19: Adolygiad o Gyfyngiadau Symud – I'w Drafod

Prif Weinidog

 

Amlinellodd y Prif Weinidog y pwerau newydd a roddir i awdurdodau lleol orfodi rheoliadau COVID-19. Cododd yr undebau llafur bryderon ynghylch y trefniadau anghyson i gasglu gwybodaeth Profi, Olrhain, Diogelu mewn safleoedd lletygarwch a chadarnhaodd y Prif Weinidog y dylai'r data hyn gael eu casglu wrth i bobl fynd i mewn i'r safle. Pwysleisiodd y sector preifat bwysigrwydd sicrhau y gall cyflogeion weithio mewn swyddfa os ydynt yn dymuno a chadarnhaodd y Prif Weinidog fod y canllawiau Dychwelyd i'r Gwaith yn cynnig hyblygrwydd.  

2.

Cymorth i'r Sector Gweithgynhyrchu – I'w Drafod

Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru

Pwysleisiodd y Gweinidog bwysigrwydd y sector gweithgynhyrchu ac amlinellodd gyllid newydd gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys £500 miliwn ar gyfer y Gronfa Cadernid Economaidd.

Cadarnhaodd y byddai'r ymgynghoriad ar Gynllun Gweithgynhyrchu Llywodraeth Cymru'n cael ei lansio ar 21 Medi.

Trafodwyd pryderon am Gynllun Ffyrlo Llywodraeth y DU ac awgrymodd y Gweinidog y dylai'r undebau llafur a Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol drafod sut y gallant gydweithio i liniaru'r effeithiau pan ddaw'r Cynllun Ffyrlo i ben. 

3.

Rhaglen Frechu Rhag y Ffliw - Er Gwybodaeth

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cefnogodd y Gweinidog y papur a ddarparwyd gan y CBI yn annog gweithwyr o fewn y sector preifat i gael brechiad rhag y ffliw er mwyn lliniaru effaith COVID-19. Cadarnhaodd fod y papur yn annog partneriaid cymdeithasol i gyfarfod â swyddogion er mwyn trafod dull o weithredu ar y cyd, a derbyniwyd hyn gan y Cyngor.

 

Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol Cysgodol – 7 Medi 2020 

Eitem

 

Gweinidog Arweiniol

Trafodaeth

1.

COVID-19 – Adolygiad o Gyfyngiadau Symud – I'w Drafod

Prif Weinidog

 

Cadarnhaodd y Prif Weinidog fod cyfraddau trosglwyddo'n cynyddu yn rhannol am nad oedd pobl yn dilyn mesurau diogelwch COVID-19. Pwysleisiodd yr undebau llafur bwysigrwydd dulliau gorfodi cyson a gwnaethant fynegi pryder ynghylch nifer mawr o bobl yn dychwelyd i'r gwaith. Cadarnhaodd y sector preifat fod y rhan fwyaf o gyflogwyr yn ffafrio dychwelyd i'r gwaith ar raddfa fach. Cadarnhaodd y Prif Weinidog y byddai datganiad yn cael ei gyhoeddi yn pwysleisio eto fod angen gweithio gartref lle bo hynny'n bosibl.

2.

COVID-19 – Ailagor Ysgolion – I'w Drafod

Y Gweinidog Addysg

Cadarnhaodd y Gweinidog fod ysgolion wedi bod yn ailagor fesul cam, bod trosglwyddo gan staff yn ffactor risg mawr a bod cyllid ychwanegol wedi'i ddarparu ar gyfer gorchuddion wyneb. Cyfeiriodd yr undebau llafur at anghysondebau o ran defnyddio gorchuddion wyneb mewn ysgolion a diffyg eglurder ynghylch gweinyddiaeth y Gronfa Glanhau Ysgolion. Cadarnhaodd

y Gweinidog y byddai'r Gronfa'n cael ei gweinyddu gan awdurdodau lleol.

Cadarnhaodd swyddogion Llywodraeth Cymru fod y Fforwm Partneriaeth Ysgolion yn llunio Cynllun Cymorth COVID-19 ar y cyd â phartneriaid cymdeithasol.

3.

Adfer – Ar Ôl COVID-19 – Er Gwybodaeth

Y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd

Eglurodd y Cwnsler Cyffredinol fod COVID-19 wedi dwysáu llawer o heriau a oedd yn bodoli'n barod. Pwysleisiodd fod gwaith adfer yn galw am ffocws tymor hwy a dull gweithredu cydlynol. Eglurodd y Cwnsler Cyffredinol fod y Grŵp Cynghori ar Ail-greu Ar Ôl COVID-19 wedi cael ei sefydlu yn ogystal â Bwrdd Parhad ac Adfer ar y Cyd i ystyried Brexit a COVID-19.

 

 

 

Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol Cysgodol – 23 Medi 2020 

Eitem

 

Gweinidog Arweiniol

Trafodaeth

1.

COVID-19 – Adolygiad o Gyfyngiadau Symud – I'w Drafod

Prif Weinidog

 

 

Amlinellodd y Prif Weinidog y cyfyngiadau symud a gyflwynwyd mewn rhai rhannau o Gymru. Trafodwyd teithio, prydau ysgol am ddim a'r taliad o £500 i weithwyr ar incwm isel. Hefyd, codwyd pryderon a fynegwyd gan staff sy'n gweithio i gyrff Llywodraeth y DU yng Nghymru am y polisi dychwelyd i'r gwaith. Pwysleisiodd y Prif Weinidog y dylai pobl aros yn lleol a gofynnodd i'r undebau llafur roi gwybod iddo am unrhyw broblemau mewn perthynas â staff Llywodraeth y DU yng Nghymru.

2.

Cyllideb Ddrafft 2021-22 Llywodraeth Cymru – I'w Drafod

Y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd

Gofynnodd y Gweinidog am safbwyntiau ar gynigion cyllidebol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22. Eglurodd y byddai pwyslais ar adfer ac ail-greu a bod trafodaethau wedi cael eu cynnal â'r llywodraethau datganoledig eraill ar Adolygiad o Wariant Llywodraeth y DU. Pwysleisiodd yr aelodau bwysigrwydd hyblygrwydd cyllidol, defnyddio arian a ddyrannwyd eisoes gan yr UE a chyllid cyfartal i'r rhai sydd â'r angen mwyaf. Gwahoddodd y Gweinidog y Cyngor i gyflwyno safbwyntiau pellach i swyddogion.

 

Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol Cysgodol – 8 Hydref 2020 

Eitem

 

Gweinidog Arweiniol

Trafodaeth

1.

Diweddariad ar y Gronfa Cadernid Economaidd a Threfniadau Pontio Ewropeaidd – Blaenoriaethau i Fusnesau - I'w Drafod

Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru

Amlinellodd y Gweinidog ddarpariaethau cyllid o dan y Gronfa Cadernid Economaidd a chadarnhaodd y byddai disgresiwn i roi lefelau uwch o gymorth i ficrofusnesau. Trafodwyd trefniadau gweinyddu'r Gronfa Cadernid Economaidd a phwy sy'n gymwys i'w defnyddio. Tynnodd y Gweinidog sylw at yr effaith y mae trefniadau pontio Ewropeaidd yn parhau i'w chael ar fusnesau ledled Cymru.

2.

Y Sector Gwirfoddol - Cyfraniad at Bartneriaeth Gymdeithasol - I'w Drafod

Prif Weithredwr Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC)

Amlinellodd y Prif Weithredwr waith y sector gwirfoddol yng Nghymru. Cododd yr undebau llafur bryderon bod rhai cyflogwyr yn defnyddio gwaith gwirfoddol i osgoi darparu gwaith cyflogedig a phwysleisiodd Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol bwysigrwydd cynnwys amrywiaeth eang o bobl yn y sector hwn. Croesawodd y Prif Weithredwr drafodaethau pellach ar y materion a godwyd.

3.

COVID-19: Adolygiad o Gyfyngiadau Symud – I'w Drafod

Prif Weinidog

 

Cyfeiriodd y Prif Weinidog at y pryderon cynyddol ynghylch pobl yn teithio i Gymru o fannau problemus o ran yr haint yn Lloegr. Trafodwyd diogelwch yn y gweithle, y rhai sydd yn y categori gwarchod ac anghenion y sector lletygarwch. Cadarnhaodd y Prif Weinidog nad oedd y cyngor i bobl yn y categori gwarchod wedi newid, bod y canllawiau ar ddiogelwch yn y gweithle yn effeithiol ac nad oedd unrhyw gynlluniau i gyfyngu ar y sector lletygarwch yn y dyfodol agos. 

 

Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol Cysgodol – 15 Hydref 2020 (Cyfarfod Eithriadol)

Eitem

 

Gweinidog Arweiniol

Trafodaeth

1.

Codi Lefel Rhybudd COVID-19 - Ystyried yr Angen am Fwy o Ymyriadau - I'w Drafod

Prif Weinidog

Cadarnhaodd y Prif Weinidog fod lefelau trosglwyddo wedi cynyddu a bod y GIG wedi cyrraedd capasiti critigol.

Eglurodd fod cyngor gwyddonol yn argymell cyfnod atal byr ond arwyddocaol er mwyn rhoi amser i'r GIG adeiladu capasiti ar gyfer y gaeaf. Amlinellodd y Prif Weinidog rai o'r materion yr oedd y Cabinet yn eu hystyried a'r mathau o gymorth a fyddai'n cael eu cynnig i ysgolion a busnesau. Trafodwyd amrywiaeth eang o faterion gan gynnwys cymorth o ran swyddi a busnesau, mannau addoli, categoreiddio gweithwyr hanfodol, cartrefi gofal ac anghenion plant yn ystod cyfnodau o gyfyngiadau symud. Eglurodd y Prif Weinidog y byddai busnesau'n parhau i ddefnyddio Cynllun Cadw Swyddi presennol Llywodraeth y DU ac yna'n newid i'r Cynllun Cefnogi Swyddi newydd o 1 Tachwedd. Cadarnhaodd y Prif Weinidog y byddai, unwaith eto, yn gofyn i Lywodraeth y DU am becyn o gymorth wedi'i deilwra a'i fod wedi gofyn am ddull gweithredu ledled y DU mewn perthynas â'r cyfnod atal byr.

 

Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol Cysgodol – 22 Hydref 2020 

Eitem

 

Gweinidog Arweiniol

Trafodaeth

1.

Cyfnod Atal Byr Cenedlaethol ar gyfer COVID-19 - I'w Drafod

Prif Weinidog

Pwysleisiodd y Prif Weinidog ddifrifoldeb yr argyfwng. Cadarnhaodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cronfa newydd gwerth £300m i gefnogi busnesau y mae'r cyfnod atal byr wedi effeithio arnynt. Cynigiodd y sector preifat arwain camau i sefydlu grŵp partneriaid cymdeithasol trawstoriadol er mwyn trafod anghenion busnesau. Yn y dyfodol, cadarnhaodd y Prif Weinidog y byddai Llywodraeth Cymru'n ystyried pa gymorth ychwanegol y gellid ei gynnig i weithwyr nad ydynt yn rhan o'r Cynllun Cadw Swyddi presennol. Cadarnhaodd y Prif Weinidog y byddai'r Prif Swyddog Meddygol yn ysgrifennu at y rhai sydd yn y categori gwarchod er mwyn amlinellu'r cymorth sydd ar gael.

2.

Bil y Farchnad Fewnol - Er Gwybodaeth 

Y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd

Amlinellodd y Cwnsler Cyffredinol bryderon ynghylch Bil y Farchnad Fewnol Llywodraeth y DU. Pwysleisiodd fod y Bil yn mynd llawer pellach na'r strwythur sydd ei angen i sicrhau cydweithrediad economaidd rhwng gwledydd y DU a bod y fframwaith cyffredin a ddatblygwyd cyn hynny yn fwy effeithiol. Eglurodd na fyddai modd argymell bod y Senedd yn rhoi cydsyniad i'r Bil a bod Llywodraeth Cymru'n cynnig cyfres o ddiwygiadau.

 

Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol Cysgodol – 28 Hydref 2020 (Cyfarfod Eithriadol) 

Eitem

 

Gweinidog Arweiniol

Trafodaeth

1.

Rheoli COVID-19 – Trefniadau i'w dilyn ar ôl y Cyfnod Atal Byr - I'w Drafod

Prif Weinidog

Cadarnhaodd y Prif Weinidog fod y Cabinet wedi cyfarfod yn ddiweddar a bod 5 maes allweddol yn cael eu hystyried o ran cyfyngiadau symud:

 

Cyfyngiadau Symud Cenedlaethol neu Leol – roedd cefnogaeth gyffredinol i weithredu ar sail genedlaethol a oedd yn decach ac yn fwy cyson ym marn yr aelodau.

Cyfyngiadau Trafnidiaeth – pwysleisiwyd pwysigrwydd negeseuon clir ac anghenion pobl sy'n byw mewn ardaloedd mwy ynysig.

Yr Economi a Gweithio Gartref – cefnogwyd gweithio gartref ond pwysleisiwyd gwerth hybiau gwaith ac anghenion sectorau penodol. 

Cymorth i'r Sectorau Twristiaeth, Chwaraeon a Diwylliant – cytunwyd bod hwn wedi cael sylw yn ystod trafodaethau blaenorol.

Y Gyfundrefn Orfodi - roedd cefnogaeth gyffredinol i ddull Llywodraeth Cymru a oedd yn ffafrio rhoi canllawiau yn hytrach na gorfodi yn gyntaf.

 

 

 

Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol Cysgodol – 12 Tachwedd 2020 

Eitem

 

Gweinidog Arweiniol

Trafodaeth

1.

Cyfnod Atal Byr Cenedlaethol ar gyfer COVID-19 - I'w Drafod

Prif Weinidog

Amlinellodd y Prif Weinidog flaenoriaethau Llywodraeth Cymru gan gynnwys gwahanol lefelau o fesurau cyfyngu, profi torfol a datblygu brechlyn y gellir ei ddefnyddio. Cadarnhaodd y Prif Weinidog y byddai canllawiau ychwanegol yn cael eu llunio ar gyfer y rhai sy'n agored i niwed yn glinigol, bod canllawiau i fusnesau'n cael eu hadolygu ac y byddai'r Fforwm Iechyd a Diogelwch yn trafod brechiadau yn ei gyfarfod nesaf.

2.

Diweddariad ar y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol – Er Gwybodaeth

Y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip

Eglurodd y Dirprwy Weinidog y byddai'r Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol yn dechrau ar 31 Mawrth 2021. Diolchodd i'r aelodau am eu cyfraniad a chadarnhaodd y byddai Llywodraeth Cymru'n parhau i weithio gyda nhw er mwyn sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn barod i'r Ddyletswydd ddechrau.

3.

Ymgyrch 'Gwybod eich Hawliau' i'r Gweithlu – Er Gwybodaeth

Y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol

Diolchodd y Dirprwy Weinidog i'r aelodau am eu cyfraniad at ddatblygu'r ymgyrch ac eglurodd ei diben gan ofyn i'r aelodau ei hyrwyddo drwy eu rhwydweithiau. Pwysleisiwyd pwysigrwydd negeseuon clir a chysondeb â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ystod y trafodaethau.

 

Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol Cysgodol – 26 Tachwedd 2020 

Eitem

 

Gweinidog Arweiniol

Trafodaeth

1.

Diweddariad ar COVID-19 - I'w Drafod

 

Prif Weinidog

 

Cadarnhaodd y Prif Weinidog gyfraddau amrywiol o drosglwyddiad COVID-19. Eglurodd fod gwledydd y DU wedi cyfarfod bedair gwaith i gytuno ar ddull unedig o weithredu dros y Nadolig a'r flwyddyn newydd. Cododd yr undebau llafur bryderon ynghylch cyngor i bobl yn y categori gwarchod a rhwystredigaeth ynghylch geiriad rhannau penodol o'r Contract Economaidd. Cadarnhaodd y Prif Weinidog y byddai'r Prif Swyddog Meddygol yn cyfarfod â nhw i drafod cyngor i'r categori gwarchod ac y byddai swyddogion perthnasol yn ystyried geiriad y Contract Economaidd.

2.

Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant – Goblygiadau Cyntaf i Gymru - Er Gwybodaeth

 

Y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd

Amlinellodd y Gweinidog effaith Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant Llywodraeth y DU ar Gymru, gan gynnwys lleihad mewn termau real mewn cyllid. Mynegodd siom ynghylch penderfyniad Llywodraeth y DU i rewi cyflogau'r sector cyhoeddus a'r diffyg cyllid ar gyfer cymorth swyddi. Croesawodd y cynnig y dylai Syr David Henshaw, Cyfoeth Naturiol Cymru, ymuno ag un o gyfarfodydd y Cyngor yn y dyfodol i roi diweddariad ar waith y grŵp adferiad gwyrdd y mae'n gadeirydd arno.  

3.

Parodrwydd ar gyfer y Senario COVID-19 Gwaethaf Posibl – Er Gwybodaeth

Prif Weinidog

 

Am fod trafodaethau'n gor-redeg, cadarnhaodd y Prif Weinidog y byddai nodyn ar Barodrwydd ar gyfer y Senario Gwaethaf Posibl yn cael ei rannu â'r aelodau.

 

Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol Cysgodol – 10 Rhagfyr 2020 (Cyfarfod Eithriadol)

Eitem

 

Gweinidog Arweiniol

Trafodaeth

1.

Cam Nesaf yr Ymateb i COVID-19 – I'w Drafod

Prif Weinidog

 

Amlinellodd y Prif Weinidog flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer cam nesaf yr ymateb i'r pandemig. Amlinellodd y Prif Swyddog Meddygol a Phrif Weithredwr y GIG bryderon ynghylch ymddygiad pobl o ran trosglwyddo'r haint ac ynghylch y GIG. Disgrifiodd y Prif Weinidog y gwahanol haenau o gyfyngiadau symud a fyddai'n cael eu rhoi ar waith yng Nghymru. Eglurodd y byddai ysgolion yn dechrau dysgu ar-lein ac y byddai oriau agor lleoliadau lletygarwch yn cael eu cwtogi. Trafodwyd yr haenau/cyfyngiadau symud lleol, yr angen am negeseuon clir a phenodol i grwpiau penodol a chymorth i fusnesau, plant a phobl sy'n agored i niwed. Cadarnhaodd y Prif Weinidog y byddai'r materion a godwyd yn cael eu trafod yn y Cabinet fel rhan o ddull gweithredu Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'r pandemig.  

 

Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol Cysgodol – 16 Rhagfyr 2020 

Eitem

 

Gweinidog Arweiniol

Trafodaeth

1.

Diweddariad ar COVID-19 (gan gynnwys y Rhaglen Frechu a'r Ymgyrch Newid Ymddygiad) - I'w Drafod

Prif Weinidog

 

Dywedodd y Prif Weinidog, yn dilyn trafodaethau â gwledydd eraill y DU, y byddai Cymru yn symud i gyfyngiadau symud Haen 4 ar ôl y Nadolig. Dywedwyd bod angen cymorth ar fusnesau ac unigolion a bod angen eglurder ynghylch trefniadau'r cyfyngiadau symud. Cafwyd diweddariadau gan swyddogion ar y rhaglen frechu ac Ymgyrch Newid Ymddygiad Llywodraeth Cymru. Cadarnhaodd y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd y byddai rheoliadau'n disgrifio pob haen o gyfyngiadau symud yn glir.

2.

Diweddariad ar y Trefniadau Pontio Ewropeaidd – Er Gwybodaeth

Y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd

Dywedodd y Cwnsler Cyffredinol fod trafodaethau'n parhau o hyd rhwng Llywodraeth y DU a'r UE ac mai dim ond 15 diwrnod oedd ar ôl. Eglurodd y Gweinidog y ffafriaeth dros gael cytundeb gwan yn hytrach na pheidio â chael cytundeb o gwbl ac amlinellodd beth fyddai hyn yn ei olygu i Gymru. Trafodwyd effaith yr ansicrwydd ar fusnesau ac unigolion. Dywedodd y Cwnsler Cyffredinol fod Llywodraeth Cymru'n mynd i'r afael â'r trefniadau pontio Ewropeaidd a'r pandemig ar y cyd er mwyn sicrhau ei bod yn gweithio mewn ffordd gydlynol.

3.

Diweddariad ar y Tasglu Adferiad Gwyrdd – Er Gwybodaeth

Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru

Amlinellodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru rôl y Tasglu Adferiad Gwyrdd a gwahoddodd y Cadeirydd i roi diweddariad ar ei waith. Amlinellodd partneriaid rai o'u mentrau eu hunain ym maes adferiad gwyrdd gan gynnig eu cefnogaeth i'r Tasglu. Pwysleisiodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru y bydd adferiad gwyrdd yn ganolog i waith Llywodraeth Cymru yn y dyfodol.

 

Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol Cysgodol – 19 Rhagfyr 2020 

Eitem

 

Gweinidog Arweiniol

Trafodaeth

1.

Straen sy'n amrywiolyn newydd o COVID-19

 

Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth

Pwysleisiodd y Dirprwy Weinidog arwyddocâd straen sy'n amrywiolyn newydd o COVID-19. Cadarnhaodd fod y straen newydd hyd at 70-80% yn fwy heintus a bod Cymru'n wynebu cynnydd esbonyddol mewn cyfraddau trosglwyddo. Eglurodd y byddai Cymru'n newid i gyfyngiadau Haen 4 ar unwaith ac amlinellodd beth fyddai hyn yn ei olygu. Mynegwyd pryderon ynghylch gosod Cymru gyfan o dan gyfyngiadau Haen 4 ond eglurodd y Gweinidog y byddai hynny'n amddiffyn y GIG ac amlinellodd pa mor gyflym y gallai gwasanaethau gael eu llethu. O drafodaethau, cadarnhaodd y Gweinidog y byddai'n trafod faint o geisiadau unigol y gellid eu gwneud o dan Gronfa Cymorth Dewisol Llywodraeth Cymru ac eglurodd fod datganiad i'r wasg wedi cael ei baratoi sy'n ymdrin â'r cyfyngiadau newydd a fyddai'n dod i rym. 

 

 

Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol Cysgodol – 14 Ionawr 2021

Eitem

 

Gweinidog Arweiniol

Trafodaeth

1.

Diweddariad ar COVID-19

 

Prif Weinidog

Cafwyd diweddariad gan y Prif Weinidog ar drosglwyddo, nifer y cleifion yn yr ysbyty a brechu. Cadarnhaodd y byddai cyhoeddiad ar ddiogelwch yn y gweithle yn cael ei wneud yn fuan. Cafwyd sgyrsiau ar y Cynllun Taliadau Cymorth Hunanynysu a'r Gronfa Cymorth Dewisol. Dywedodd yr undebau llafur fod angen rhoi pwyslais o'r newydd ar asesiadau risg yn y gweithle a phwysleisiodd y sector preifat bwysigrwydd profi cyflogeion ar y safle er mwyn cryfhau diogelwch yn y gweithle. Mynegodd yr undebau llafur bryder hefyd am gyflymder y trefniadau i frechu athrawon gan bwysleisio ei bod yn bwysig bod ysgolion yn ddiogel cyn iddynt ailagor. Cadarnhaodd y Prif Weinidog y byddai nodyn ar barodrwydd ar gyfer y senario gwaethaf posibl yn cael ei rannu.

2.

Diweddariad ar y Trefniadau Pontio Ewropeaidd

 

Y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd

 

Amlinellodd y Gweinidog bryderon â'r cytundeb pontio a chadarnhaodd y byddai dadansoddiad llawn gan Lywodraeth Cymru yn cael ei gyhoeddi. Amlinellodd bryderon â Bil Perthynas yn y Dyfodol Llywodraeth y DU ac eglurodd na fyddai argymhelliad yn cael ei wneud i'r Senedd roi cydsyniad deddfwriaethol iddo. Cadarnhaodd y Gweinidog fod Llywodraeth Cymru'n datblygu canllawiau brys i fusnesau.

3.

Diweddariad ar y Rhaglen Frechu

Uwch-swyddog o Lywodraeth Cymru

Cadarnhawyd bod strategaeth frechu Llywodraeth Cymru wedi cael ei chyhoeddi ar 11 Ionawr a bod lefelau cyflwyno'r brechlyn wedi cynyddu. Eglurwyd bod Llywodraeth Cymru a'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu wrthi'n trafod y diffiniad o weithiwr allweddol cyn cam 2 y broses o gyflwyno'r brechlyn.

 

 

Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol Cysgodol – 28 Ionawr 2021

Eitem

 

Gweinidog Arweiniol

Trafodaeth

1.

Diweddariad ar COVID-19

Prif Weinidog

Cafwyd diweddariad gan y Prif Weinidog ar gapasiti'r GIG, brechiadau a lefelau cyfyngiadau. Cydnabu fod angen rhoi rhybudd clir i fusnesau ynghylch cyfyngiadau. Teimlai'r undebau llafur y dylid datblygu cyfres o egwyddorion a rennir ynghylch cyflwyno'r brechiad a brechu yn y gweithle. Cytunwyd y byddai'r Fforwm Iechyd a Diogelwch yn datblygu dealltwriaeth ar y cyd o faterion diogelwch yn y gweithle gan gynnwys defnyddio dyfeisiau llif unffordd. Tynnodd Comisiynydd Plant Cymru sylw at bwysigrwydd rhoi negeseuon cadarnhaol a chysurlon i blant ynghylch y cyfyngiadau symud.

2.

Effaith Rhaglenni Cymorth Ariannol Llywodraeth Cymru

 

Y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol

Amlinellodd y Dirprwy Weinidog ddiben y Cynllun Cymorth Hunanynysu a chadarnhaodd y byddai'n cael ei adolygu er mwyn cadarnhau cymhwysedd a chodi ymwybyddiaeth. Cafwyd amlinelliad gan y Gweinidog o'r Gronfa Cymorth Dewisol hefyd ac eglurodd y byddai gwaith yn cael ei wneud i asesu'n well a yw pobl yn cael yr amrywiaeth lawn o gymorth sydd ar gael iddynt o dan gynlluniau cymorth gwahanol.

3.

Effaith Gychwynnol Newid o Ganllawiau i Reoliadau: Gweithrediad Diogel Busnesau a Busnesau Manwerthu Hanfodol sy'n Cynnal Asesiadau Risg COVID-19

Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru

 

Eglurodd y Gweinidog fod y ddyletswydd reoleiddiol newydd ar gyflogwyr yn cynnwys yr angen i gynnal asesiad risg COVID-19 penodol ar y safle. Cadarnhaodd faint o gyllid a ddarparwyd i sectorau busnes penodol a diolchodd i aelodau am sicrhau bod y cyllid hwn wedi'i ddyrannu'n effeithiol.

 

Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol Cysgodol – 10 Chwefror 2021

Eitem

 

Gweinidog Arweiniol

Trafodaeth

1.

Diweddariad ar COVID-19

Prif Weinidog

Cafwyd diweddariad gan y Prif Weinidog ar gyfraddau trosglwyddo a brechu lle parhaodd i ddweud bod angen bod yn ofalus. Pwysleisiodd y byddai sicrhau bod plant yn dychwelyd i'r ysgol yn flaenoriaeth a chadarnhaodd fod y Fforwm Iechyd a Diogelwch wedi trafod trefniadau cyflwyno'r brechiad ac y byddai'n ystyried set o brotocolau cytûn ar brofi yn y gweithle.

2.

Effaith Hirdymor COVID-19 a Ffactorau Lliniaru i'r Dyfodol

·         Adferiad yn y GIG

·         Adferiad yn yr Economi

 

Prif Weinidog

 

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

 

Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth

Adferiad yn y GIG

Amlinellodd y Gweinidog yr heriau sy'n wynebu'r GIG a sut y gellid ailddylunio gwasanaethau mewn partneriaeth gymdeithasol i'w gwneud yn fwy cynaliadwy. Pwysleisiodd yr aelodau fod angen cymorth iechyd meddwl i staff a chroesawodd y Gweinidog drafodaeth bellach ar hyn. Pwysleisiodd y bydd profiad cleifion o ofal iechyd yn ganolog i ddiwygiadau.  

Adferiad yn yr Economi

Eglurodd y Dirprwy Weinidog rai o effeithiau hirdymor y pandemig ac amlinellodd gynllun adfer economaidd Llywodraeth Cymru. Pwysleisiodd Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol bwysigrwydd datblygu sgiliau. Cynigiodd y Dirprwy Weinidog drafod hyn ymhellach ac eglurodd fod llawer o'r ysgogiadau ar gyfer newid heb eu datganoli ac y byddai'n bwysig canolbwyntio ar yr hyn y gellid dylanwadu'n uniongyrchol arno yng Nghymru.

 

Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol Cysgodol – 25 Chwefror 2021

Eitem

 

Gweinidog Arweiniol

Trafodaeth

1.

Diweddariad ar COVID-19

Prif Weinidog

Cadarnhaodd y Prif Weinidog ostyngiad mewn cyfraddau trosglwyddo a llwyddiant parhaus y rhaglen frechu ond pwysleisiodd fod angen bod yn ofalus o hyd. Cadarnhaodd y Prif Weinidog estyniad i'r Cynllun Taliadau Hunanynysu a mwy o gyllid i'r Gronfa Cymorth Dewisol dewisol. Trafododd gynigion ar gyfer llacio'r cyfyngiadau a'r ymrwymiad i sicrhau bod plant yn dychwelyd i'r ysgol, yn raddol, fel mater o flaenoriaeth. Croesawyd hyn gan y Comisiynydd Plant a awgrymodd y dylid cynnal diwrnodau ailgydio i'r rhai a fyddai'n dychwelyd yn hwyrach. Cadarnhaodd y Prif Weinidog y byddai'r Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) drafft yn cael ei gyhoeddi er mwyn ymgynghori arno ar 26 Chwefror ac amlinellodd rai o'i brif ddarpariaethau.

2.

Materion Moesegol Brechu yn y Gweithle – Datblygu dull y cytunir arno

 

Uwch-swyddog o Lywodraeth Cymru

Cafwyd trosolwg o waith y Grŵp Cynghori ar Faterion Moesol a Moesegol COVID-19 yng Nghymru. Cafwyd trafodaeth ar frechu yn y gweithle. Cadarnhaodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol y byddai'r Cyngor yn cael papur ar gyfraddau brechu ymhlith grwpiau economaidd-gymdeithasol ac ethnig gwahanol.

3.

Fersiwn Ddiweddaraf y Strategaeth Brofi

 

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

 

Cadarnhaodd y Gweinidog fod y fersiwn ddiweddaraf o strategaeth brofi Llywodraeth Cymru wedi cael ei chyhoeddi ac amlinellodd ei phrif ddarpariaethau. Trafodwyd profi yn y gweithle a'r defnydd o ddyfeisiau llif unffordd. Roedd ymrwymiad i Lywodraeth Cymru gadarnhau'r canllawiau ar-lein ar gyfer cael prawf PCR ar ôl cael canlyniad positif gan ddyfais llif unffordd yn y gweithle.

 

 

Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol Cysgodol – 10 Mawrth 2021

Eitem

 

Gweinidog Arweiniol

Trafodaeth

1.

Diweddariad ar COVID-19

Prif Weinidog

Cadarnhaodd y Prif Weinidog y byddai Llywodraeth Cymru'n ystyried data o Loegr ar gyfraddau trosglwyddo mewn ysgolion fel rhan o'i pholisi dychwelyd i'r ysgol ac y byddai hefyd yn darparu gwybodaeth am gyfraddau trosglwyddo ymhlith pobl o dan 25 oed. Gofynnodd yr undebau llafur am ddata ar ledaeniad COVID-19 mewn cymunedau difreintiedig gan gydnabod y cysylltiadau rhwng amodau byw a throsglwyddiad.  Mewn ymateb i gyllideb Llywodraeth y DU, eglurodd y Prif Weinidog ei fod wedi penderfynu gwneud nifer o fuddsoddiadau byrdymor i fynd i'r afael â'r pandemig ar hyn o bryd.

2.

Cynlluniau i Lacio Cyfyngiadau Symud COVID-19

 

Prif Weinidog

Rhannodd y Prif Weinidog fanylion am gam nesaf y cyhoeddiadau i lacio'r cyfyngiadau symud. Roedd cefnogaeth ymhlith partneriaid dros weithredu'n ofalus a chadarnhaodd y sector preifat fod rhestr wirio ailagor lleoliadau manwerthu Llywodraeth Cymru wedi cael ei rhannu'n eang. Amlinellodd y Prif Weinidog flaenoriaethau cyllid a threfniadau i fynd i'r afael â'r pandemig yn ystod cyfnod yr etholiad.

3.

Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol

Y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip

 

Eglurodd y Dirprwy Weinidog fod y Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol wedi cael ei greu mewn partneriaeth, y byddai'n hanfodol ymgysylltu'n barhaus er mwyn ei roi ar waith, ac y byddai'r ymgynghoriad ar y cynllun yn dechrau'n fuan. Pwysleisiodd effaith gynyddol anghydraddoldeb a diolchodd i'r aelodau am eu cyfraniad at gydgynhyrchu'r canllawiau ar y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol.

 

 

 

 

 

 

Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol Cysgodol – 24 Mawrth 2021

Eitem

 

Gweinidog Arweiniol

Trafodaeth

1.

Diweddariad ar COVID-19

Prif Weinidog

Cyhoeddodd y Prif Weinidog lansiad cynllun adfer y GIG, sef Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru – COVID-19: Edrych tua'r dyfodol, ac amlinellodd gynlluniau i lacio'r cyfyngiadau ymhellach. Cytunodd yr aelodau i atgyfnerthu negeseuon diogelwch yn y gweithle drwy rwydweithiau partneriaid cymdeithasol.

2.

Cymorth Iechyd Meddwl yn y Gweithle

 

Y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg

Cafwyd manylion gan y Gweinidog am ymagwedd Llywodraeth Cymru o ran cymorth iechyd meddwl yn y gweithle a gefnogwyd gan bob partner. Pwysleisiodd y sector gwirfoddol ei rôl yn y gwaith o ddatblygu'r model cymdeithasol ehangach o iechyd meddwl. Tynnodd y sector preifat sylw at effaith gronnol dyled ar iechyd meddwl pobl. Eglurodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru fod y Contract Economaidd yn cael ei gryfhau er mwyn ystyried pwysigrwydd iechyd meddwl a llesiant a galwodd ar aelodau'r Cyngor i ddefnyddio eu rhwydweithiau er mwyn annog pobl i gofrestru.

3.

Y Rhaglen Frechu: Amrywiadau mewn Cyfraddau Brechu rhwng Grwpiau Economaidd-gymdeithasol ac Ethnig

Iechyd Cyhoeddus Cymru

 

Cyflwynodd Iechyd Cyhoeddus Cymru ddata yn tynnu sylw at gyfraddau brechu amrywiol rhwng cymunedau a grwpiau economaidd-gymdeithasol ac effaith anghymesur COVID-19. Cafwyd sicrwydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ei fod yn parhau i ymgysylltu â'r grwpiau hyn er mwyn sicrhau bod cynifer o bobl â phosibl yn cael eu brechu.

4.

Tystysgrifau Brechu

Uwch-swyddog o Lywodraeth Cymru

Eglurodd y swyddog y materion sy'n ymwneud â thystysgrifau brechu. Cododd partneriaid broblemau posibl o ran pasbortau brechu i fusnesau. Pwysleisiodd yr undebau llafur ei bod yn bwysig addysgu pobl am y brechiad yn hytrach na'i wneud yn orfodol a rhoi amser i ffwrdd o'r gwaith â thâl i staff er mwyn iddynt gael eu brechu.

5.

Unrhyw fater arall: Papur i'w Nodi – Cymorth i bobl ddall a rhannol ddall

Prif Weinidog

Tynnodd y Prif Weinidog sylw at y papur i'w nodi a ddarparwyd ynghylch cymorth i bobl ddall a rhannol ddall.

 

 

Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol Cysgodol – 31 Mawrth 2021

Eitem

 

Gweinidog Arweiniol

Trafodaeth

1.

Diweddariad ar COVID-19

Prif Weinidog

Cadarnhaodd y Prif Weinidog fod y rhaglen frechu ar y trywydd cywir o hyd er gwaetha'r heriau o ran y cyflenwad a bod lefelau trosglwyddo'n lleihau er bod rhai amrywiadau rhanbarthol.

2.

COVID-19 – Cylch Adolygu 21 Diwrnod - Diweddariad

 

Prif Weinidog

Amlinellodd y Prif Weinidog gynigion i lacio'r cyfyngiadau symud yn y dyfodol. Pwysleisiodd yr undebau llafur fod diogelwch yn y gweithle yn parhau i fod yn bwysig wrth i'r camau llacio fynd rhagddynt a gwnaethant fynegi pryderon am ddefnydd y Cynllun Taliadau Cymorth Hunanynysu.  Cadarnhaodd y Prif Weinidog fod mwy o waith yn cael ei wneud ar y cynllun. Dywedodd y sector preifat fod dryswch ynghylch y canllawiau presennol i'r rhai yn y categori gwarchod. Trafodwyd gwahaniaethau o ran pwy sy'n manteisio ar y brechiad a chadarnhawyd y byddai swyddogion Llywodraeth Cymru yn ystyried y broblem benodol sydd i'w gweld o ran nifer y myfyrwyr ethnig lleiafrifol sy'n manteisio ar y brechiad.

 

Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol Cysgodol – 22 Ebrill 2021

Eitem

 

Gweinidog Arweiniol

Trafodaeth

1.

Diweddariad ar COVID-19

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cafwyd rhybudd gan y Gweinidog ynghylch peryglon amrywiolion COVID-19 newydd. Croesawodd y sector preifat fenter y cyflogwyr datganoledig i roi profion llif unffordd yn uniongyrchol i fusnesau. Cytunwyd y byddai mwy o drafodaethau'n cael eu cynnal i ystyried a fyddai modd cynnwys y cynllun hwn fel rhan o'r dull gweithredu cenedlaethol. Cododd yr undebau bryderon am y cynlluniau cymorth sydd ar waith gan gytuno y byddent yn ymhelaethu ar y rhain yn ysgrifenedig. Gofynnodd y Gweinidog i swyddogion drafod pryderon a godwyd ynghylch y ddarpariaeth profion llif unffordd i weithwyr gofal cymdeithasol.

2.

COVID-19 – Cylch Adolygu 21 Diwrnod – Diweddariad

 

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Amlinellodd y Gweinidog brif bwyntiau'r cyhoeddiad ar lacio'r cyfyngiadau a fyddai'n cael ei wneud y diwrnod canlynol a chymorth ariannol i fusnesau. Mynegodd yr undebau llafur bryderon am gydymffurfiaeth ag asesiadau risg ac awgrymwyd y dylid defnyddio'r cyhoeddiadau adolygu i hyrwyddo negeseuon diogelwch. Anogwyd yr aelodau i gynnig syniadau ynghylch sut y gallai Llywodraeth Cymru egluro disgwyliadau cyflogwyr a chyflogeion o ran canllawiau gweithio ystwyth a diogel.

 

Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol Cysgodol – 13 Mai 2021

Eitem

 

Gweinidog Arweiniol

Trafodaeth

1.

Diweddariad ar COVID-19

Llywodraeth Cymru – Y Gell Cyngor Technegol

Cafwyd trosolwg gan uwch-swyddogion o Lywodraeth Cymru o gyfraddau trosglwyddo a phryderon ynghylch amrywiolyn newydd. Wedi hynny, cafwyd trafodaeth ynghylch diffyg eglurder a gwaith ymgynghori ar ddefnyddio gorchuddion wyneb mewn ysgolion. Cadarnhaodd y swyddogion y byddai camau'n cael eu cymryd i ymgynghori'n llawn ag aelodau unwaith y bydd Gweinidog Addysg newydd wedi'i benodi ar ôl yr etholiad.

2.

COVID-19 – Cylch Adolygu 21 Diwrnod - Diweddariad

 

Uwch-swyddog o Lywodraeth Cymru

Cafwyd manylion gan uwch-swyddog o Lywodraeth Cymru ar gam nesaf y broses lacio. Teimlai aelodau fod geiriad rhai o'r cyhoeddiadau llacio yn aneglur. Eglurodd y swyddogion gymhlethdodau ceisio cyfleu'r cysylltiad rhwng ffactorau risg amrywiol mewn lleoliadau cymdeithasol gwahanol yn glir a gofynnodd i'r aelodau ymhelaethu ar unrhyw broblemau eraill yn y maes hwn y tu allan i'r cyfarfod. Cafwyd trafodaethau ar heriau'r rheolau ymbellhau cymdeithasol ac amlinellwyd rhagor o gymorth i fusnesau. 

 

Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol Cysgodol – 3 Mehefin 2021

Eitem

 

Gweinidog Arweiniol

Trafodaeth

1.

Diweddariad ar COVID-19

Prif Weinidog

Cafwyd rhybudd gan y Prif Weinidog ynghylch bygythiad Amrywiolyn Delta ac adroddiadau camarweiniol yn y cyfryngau ynghylch trosglwyddadwyedd. Dywedodd fod yn rhaid cymryd gofal o hyd.

2.

COVID-19 – Cylch Adolygu 21 Diwrnod - Diweddariad

 

Prif Weinidog

Amlinellodd y Prif Weinidog gynigion i lacio'r cyfyngiadau symud yn raddol a dywedodd y byddai amddiffyn y GIG yn flaenoriaeth o hyd. Trafodwyd cymhlethdodau teithio rhyngwladol yn ogystal ag anghenion sectorau busnes penodol. Yn dilyn sgyrsiau, cadarnhaodd y Prif Weinidog  y byddai swyddogion yn rhoi nodyn i'r aelodau cyn cyfarfod nesaf y Cyngor ar oblygiadau cyllid cyfalaf awyru ystâd y GIG i gyd a chodi'r moratoriwm ar beidio â thalu rhent am denantiaethau masnachol.

3.

Profi COVID-19 yn y Gweithle – Gwersi a Ddysgwyd

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Pwysleisiodd y Gweinidog bwysigrwydd profion cyson yn y gweithle ac amlinellodd y fersiwn ddiweddaraf o'r strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu. Gofynnodd y Gweinidog i'r aelodau am eu barn ar barhau i brofi yn y gweithle ar ôl i Lywodraeth y DU benderfynu rhoi'r gorau i wneud hynny ar 30 Mehefin. Ymrwymwyd y byddai Llywodraeth Cymru'n ystyried ansawdd y data sy'n cael eu casglu am ddefnydd unigolion o brofion llif unffordd y tu allan i'r gweithle a'r effaith y gallai hyn ei chael ar ddata llif unffordd yn gyffredinol. 

 

Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol Cysgodol – 17 Mehefin 2021

Eitem

 

Gweinidog Arweiniol

Trafodaeth

1.

Diweddariad ar COVID-19

Prif Weinidog

Cadarnhaodd y Prif Weinidog ddominyddiaeth Amrywiolyn Delta a'i effaith. Cadarnhaodd y byddai'n rhoi diweddariad ar asesiadau risg yn ei gyhoeddiad i'r wasg y diwrnod canlynol. Pwysleisiodd ei bod yn bwysig parhau i weithio gartref lle bo hynny'n bosibl.

2.

COVID-19 – Cylch Adolygu 21 Diwrnod - Diweddariad

 

Prif Weinidog

Rhannodd y Prif Weinidog fanylion y cyhoeddiad ar y cylch adolygu nesaf. Cadarnhaodd nad oedd safbwynt Llywodraeth Cymru ar orchuddion wyneb mewn ysgolion wedi newid a chafodd hyn ei groesawu gan yr undebau llafur.

Cadarnhaodd hefyd fod gwaith yn mynd rhagddo gyda'r sector addysg i ddatblygu set fwy hyblyg o drefniadau ar gyfer y tymor newydd.

3.

COVID-19 – Diweddariad ar Gymorth i Fusnesau

Uwch-swyddog o Lywodraeth Cymru

Cafwyd manylion gan swyddog o Lywodraeth Cymru ynghylch y cymorth ariannol a gynigir i fusnesau yn dilyn cyhoeddiad diweddar gan Weinidog yr Economi. Cadarnhaodd fod trafodaethau ynghylch cymorth yn y dyfodol yn mynd rhagddynt ar lefel Weinidogol. Cadarnhaodd hefyd fod trafodaethau'n cael eu cynnal â Llywodraeth y DU ynghylch y cynllun ffyrlo, gan gynnwys yr angen am fwy o ddata ar ei ddefnydd.

Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol Cysgodol – 1 Gorffennaf 2021

Eitem

 

Gweinidog Arweiniol

Trafodaeth

1.

Diweddariad Cyffredinol ar COVID-19 (gan gynnwys y Cylch Adolygu 21 Diwrnod)

Prif Weinidog

Cadarnhaodd y Prif Weinidog fod lefelau trosglwyddo Amrywiolyn Delta yn cynyddu ond mai'r bwriad o hyd oedd codi'r cyfyngiadau dros yr haf. Cadarnhaodd fod y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu wedi cynghori y dylid cynnal ymgyrch pigiadau atgyfnerthu yn yr hydref. Cadarnhaodd hefyd y byddai profion llif unffordd yn y gweithle yn parhau i fod am ddim yng Nghymru. Pwysleisiodd pob aelod bwysigrwydd negeseuon clir ynghylch cyfyngiadau.

2.

Diweddariad Pwnc COVID-19

 

Swyddogion Polisi Arweiniol Llywodraeth Cymru

Cafwyd diweddariadau ar lafar gan swyddogion Llywodraeth Cymru ar y cyfnod ar ôl i Lefel Rhybudd 1 ddod i ben, cyngor gan y Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau (SAGE), brechu, hunanynysu, teithio dramor, cymorth i fusnesau a'r GIG. Roedd ymrwymiad i sicrhau bod rownd nesaf y Gronfa Cadernid Economaidd, gan gynnwys cynigion ar gyfer cyllid yn y dyfodol, yn cael ei ystyried yn un o gyfarfodydd nesaf y Cyngor, ynghyd ag effaith hirdymor COVID-19.

 

Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol Cysgodol – 14 Gorffennaf 2021

Eitem

 

Gweinidog Arweiniol

Trafodaeth

1.

Diweddariad Cyffredinol ar COVID-19

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cadarnhaodd y Gweinidog fod cyfraddau trosglwyddo wedi dyblu a bod y data'n dangos bod mwy o amharodrwydd ymhlith pobl ifanc i gael eu brechu.

2.

COVID-19 – Cylch Adolygu 21 Diwrnod - Diweddariad

 

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Pwysleisiodd y Gweinidog fod angen bod yn bwyllog o ran llacio'r cyfyngiadau ac amlinellodd y camau gwahanol a oedd yn cael eu cynnig ar sail y lefelau trosglwyddo presennol. Cadarnhaodd

na fyddai angen i bobl sydd wedi cael dau frechiad hunanynysu. Pwysleisiodd yr aelodau bwysigrwydd negeseuon clir ac ymrwymwyd i ddarparu amcanestyniadau o gyfraddau derbyniadau i'r ysbyty i'r Cyngor yn ogystal â chopi o adroddiad y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu ynghylch brechu plant.

3.

Y Gronfa Cadernid Economaidd – Cynigion ar gyfer Cyllid yn y Dyfodol

Gweinidog yr Economi

Amlinellodd y Gweinidog becyn terfynol o gymorth brys i fusnesau yn seiliedig ar y dybiaeth na fyddai angen rhagor o gyfyngiadau. Cytunwyd y byddai Llywodraeth Cymru'n ymgysylltu â phartneriaid cymdeithasol er mwyn llunio canllawiau i helpu pobl i ddychwelyd i'r gwaith.

Cadarnhaodd y Gweinidog y byddai Llywodraeth Cymru'n ystyried ble y gellid defnyddio rhaglenni presennol i gefnogi unigolion ymhellach a chadarnhaodd y byddai'r Llywodraeth yn ymgynghori â phartneriaid ynghylch hyn. Cytunwyd hefyd y byddai swyddogion yn trafod sut y gellid defnyddio COP26 fel cyfle i hyrwyddo'r agenda werdd ymhellach ymhlith busnesau.

 

Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol Cysgodol – 5 Awst 2021

Eitem

 

Gweinidog Arweiniol

Trafodaeth

1.

Diweddariad: Y Sefyllfa Iechyd Ledled Cymru

Prif Swyddog Meddygol

Cadarnhaodd y Prif Swyddog Meddygol fod cyfraddau trosglwyddo'n sefydlogi a phwysleisiodd bwysigrwydd ymgyrch pigiadau atgyfnerthu'r hydref. Cytunwyd ei bod yn hanfodol cyfleu negeseuon am bwysigrwydd y brechiad i bobl ifanc. Roedd cyhoeddiad ar yr ymgyrch pigiadau atgyfnerthu'n cael ei lunio ar y cyd â byrddau iechyd ac awdurdodau lleol.

2.

Diweddariad Cyffredinol ar y GIG

 

Uwch-swyddog o Lywodraeth Cymru

Rhannodd uwch-swyddog o Lywodraeth Cymru fanylion am effaith y pandemig ar y GIG, gan gynnwys capasiti, lefelau staffio yn ogystal â gofal brys a gofal cymdeithasol. Gofynnodd yr undebau llafur am ddata tebyg ar gyfer y sector gofal cymdeithasol yn ogystal â'r modd y mae lefelau staffio wedi newid wrth i gyn-aelodau o staff y GIG ddychwelyd i'r UE.

3.

Cylch Adolygu 21 Diwrnod

Prif Weinidog

Cadarnhaodd y Prif Weinidog gynlluniau i symud Cymru i Lefel Rhybudd Sero ac eglurodd oblygiadau hyn gan bwysleisio pwysigrwydd mesurau diogelwch sylfaenol ar yr un pryd. Yn dilyn trafodaethau, cadarnhaodd y Prif Weinidog fod Llywodraeth Cymru'n datblygu mwy o ganllawiau ar awyru, gyda phartneriaid cymdeithasol. Cadarnhaodd hefyd y byddai'r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol yn galw cyfarfod arbennig o'r Fforwm Iechyd a Gofal Cymdeithasol er mwyn trafod mesurau rhesymol i Gymru mewn perthynas ag asesiadau risg.

4.

Hunanynysu

Prif Weinidog

Cadarnhaodd y Prif Weinidog, o 7 Awst, na fyddai angen i bobl sydd wedi cael dau frechiad hunanynysu mwyach, y byddai'r system Profi, Olrhain, Diolgeu nawr yn gweithio mwy fel proses i rybuddio a hysbysu pobl a bod peilotiaid y Cynllun Cymorth Hunanynysu wedi datgelu bod angen mathau eraill o gymorth, nid dim ond cymorth ariannol.

 

Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol Cysgodol – 16 Medi 2021

Eitem

 

Gweinidog Arweiniol

Trafodaeth

1.

Diweddariad ar COVID-19

Prif Swyddog Meddygol

Cadarnhaodd y Prif Swyddog Meddygol fod lefelau trosglwyddo'n uchel ond pwysleisiodd effaith gadarnhaol y rhaglen frechu. Yn dilyn trafodaethau, eglurodd y Prif Swyddog Meddygol fod amrywiadau rhanbarthol mewn lefelau trosglwyddo yn normal a phwysleisiodd ei bod yn bwysig i bartneriaid hyrwyddo'r brechiad drwy eu rhwydweithiau. Cadarnhaodd swyddogion y byddai materion yn ymwneud ag ysgolion yn cael eu trafod yng nghyfarfod nesaf y Fforwm Partneriaeth Ysgolion.

2.

COVID-19 – Cylch Adolygu 21 Diwrnod - Diweddariad

 

Prif Weinidog

Amlinellodd y Prif Weinidog y blaenoriaethau allweddol, gan gynnwys ymgyrch pigiadau atgyfnerthu'r hydref a brechu pobl ifanc 12–15 oed. Cadarnhaodd fod y Cabinet wedi penderfynu cyflwyno pàs COVID-19 yn hytrach na system ardystio ac y byddai datganiad i'r wasg yn rhestru'r holl leoliadau risg uchel lle byddai angen pàs o'r fath. Eglurodd y Prif Weinidog fod trafodaethau'n mynd rhagddynt â Llywodraeth y DU ar yr Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant a fyddai'n ymdrin â nifer o'r pryderon a godwyd gan yr undebau llafur ynghylch cymorth i unigolion. Cadarnhaodd y byddai'r Cwnsler Cyffredinol yn cyfarfod ag undebau llafur er mwyn ymchwilio i honiadau bod rhai gweithwyr yn teimlo o dan bwysau i gael y brechiad. 

3.

COVID-19 –Ymgyrch Pigiadau Atgyfnerthu'r Hydref – Gan Gynnwys y Drefn ar gyfer Pobl sy'n Agored i Niwed yn Glinigol a Phobl sydd heb eu Brechu

Uwch-swyddog o Lywodraeth Cymru

Eglurodd uwch-swyddog o Lywodraeth Cymru gymhlethdodau'r rhaglen frechu a rhannodd fanylion am ymgyrch pigiadau atgyfnerthu'r hydref. Amlinellodd y mesurau sy'n cael eu cymryd i amddiffyn y bobl sydd fwyaf agored i niwed a brechu plant. 

 

 

Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol Cysgodol – 7 Hydref 2021

Eitem

 

Gweinidog Arweiniol

Trafodaeth

1.

Gweithio o Bell - Diweddariad

Y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd

Amlinellodd y Dirprwy Weinidog strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer gweithio o bell a'r gwaith ymgysylltu a wnaed ynghylch hyn. Cadarnhaodd swyddogion y byddent yn parhau i ymgysylltu â phartneriaid cymdeithasol er mwyn sicrhau bod trefniadau gweithio hyblyg yn cael eu rhoi ar waith yn deg. Dywedodd y sector preifat fod y gymuned fusnes wedi rhoi adborth cymysg ar weithio hyblyg ac roedd yr undebau llafur wedi cydnabod buddiannau gweithio gartref ond gwnaethant bwysleisio hefyd na fyddai'n addas i bob gweithiwr.

2.

Diweddariad ar COVID-19

 

Prif Swyddog Meddygol

Cadarnhaodd y Prif Swyddog Meddygol fod y rhaglen frechu yn lliniaru lefelau trosglwyddo uchel. Eglurodd fod strategaeth frechu ddiwygiedig yn cael ei pharatoi i'w chyhoeddi a phwysleisiodd bwysigrwydd ymgyrch pigiadau atgyfnerthu'r hydref. Gan fynd i'r afael â phryderon a godwyd gan yr undebau llafur ynghylch ysgolion, cadarnhaodd y Gweinidog Addysg fod nifer o'r materion eisoes wedi cael eu trafod yng nghyfarfod y Fforwm Partneriaeth Ysgolion a bod trafodaethau'n mynd rhagddynt o hyd ar y pryderon eraill.

3.

Cylch Adolygu 21 Diwrnod

Prif Weinidog

Cadarnhaodd y Prif Weinidog y byddai Cymru yn aros ar Lefel Rhybudd Sero am dair wythnos arall ac eglurodd y byddai fersiwn ddiweddaraf Cynllun Rheoli'r Coronafeirws yn cael ei chyhoeddi'n fuan; diolchodd i'r aelodau am eu cyfraniadau. Cadarnhaodd y Prif Weinidog y byddai dull cymesur yn cael ei fabwysiadu wrth lansio'r system pasys COVID-19 er mwyn rhoi cyfle i fusnesau addasu. Eglurodd fod y system wedi cael ei dylunio i gefnogi busnesau fel y gallent barhau i weithredu.

 

 

 

Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol Cysgodol – 28 Hydref 2021

Eitem

 

Gweinidog Arweiniol

Trafodaeth

1.

Diweddariad ar COVID-19 - I'w Drafod

 

Prif Swyddog Meddygol

Eglurodd y Prif Swyddog Meddygol fod lefelau trosglwyddo yn uchel o hyd ond bod arwyddion cynnar eu bod yn gostwng. Amlinellodd rai o'r rhesymau dros hyn ac eglurodd fod is-amrywiolyn diweddar straen Delta yn debygol o fod yn fwy trosglwyddadwy. Galwodd y partneriaid cymdeithasol am gryfhau a symleiddio negeseuon diogelwch.

2.

COVID-19 – Cylch Adolygu 21 Diwrnod – Diweddariad – Er Gwybodaeth

Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Cadarnhaodd y Gweinidog fod y Cabinet wedi trafod cydymffurfiaeth â mesurau diogelwch, gorchuddion wyneb a gweithio gartref. Pwysleisiodd y Gweinidog ei bod yn bwysig datblygu'r rhaglen frechu, bod canllawiau i ysgolion yn cael eu datblygu ac na allai ddiystyru'r posibilrwydd y byddai'r cyfyngiadau'n cael eu hailgyflwyno. Amlinellodd y partneriaid cymdeithasol rai o'r heriau sy'n wynebu gweithwyr mewn lleoliadau gwahanol. Cadarnhaodd y Gweinidog y byddai'r cyngor a roddwyd yn cael ei gynnwys mewn gwaith cyfathrebu parhaus.

3.

Cynllun Cymru Sero Net Er Gwybodaeth

Y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol

Cadarnhaodd y Gweinidog fod Cynllun Cymru Sero Net newydd gael ei lansio a diolchodd i'r partneriaid cymdeithasol am eu cyfraniad. Gofynnodd y sector preifat am fwy o ymgysylltu â swyddogion er mwyn deall gofynion y Cynllun yn well a galwodd yr undebau llafur am i'r Cyngor gael ei gynnwys yn y gwaith cyflawni. Pwysleisiodd y Gweinidog ei bod yn bwysig parhau i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol.

 

Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol Cysgodol – 18 Tachwedd 2021

Eitem

 

Gweinidog Arweiniol

Trafodaeth

1.

Diweddariad ar COVID-19 - I'w Drafod

Prif Swyddog Meddygol

Cadarnhaodd y Prif Swyddog Meddygol fod cyfraddau trosglwyddo yn y gymuned yn uchel o hyd a bod cyfraddau trosglwyddo ymhlith pobl dros 60 oed yn bryder penodol. Cadarnhaodd fod ton newydd o amrywiolyn Delta yn cael ei monitro'n agos a bod y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu yn datblygu mwy o ganllawiau ar frechu grwpiau gwahanol. Cadarnhaodd y Prif Weinidog ei fod wedi cymryd rhan mewn trafodaethau â llywodraethau eraill y DU y noson flaenorol a bod y sefyllfa yn anwadal iawn.

2.

COVID-19 – Cylch Adolygu 21 Diwrnod – Diweddariad – Er Gwybodaeth

Prif Weinidog

Cadarnhaodd y Prif Weinidog y byddai Cymru'n arosar Lefel Rhybudd Sero. Cynigodd yr undebau llafur helpu i ddatblygu canllawiau ar weithio gartref a hunanynysu a gwnaethant alw am i delerau ac amodau'r sector gofal cymdeithasol gael eu hailystyried. Pwysleisiodd y sector preifat bryderon busnesau bach, gan gynnwys y defnydd o basys lletygarwch. Eglurodd y Prif Weinidog fod y system pasys wedi cael ei chynllunio er mwyn galluogi busnesau i barhau i weithredu ac, yn dilyn cyngor gan y Fforwm Gofal Cymdeithasol, y byddai'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol yn ailystyried telerau ac amodau cyflogaeth yn y sector.

3.

Diweddariad ar Gymorth i Fusnesau – Er Gwybodaeth

 

Gweinidog yr Economi

Darparodd y Gweinidog fanylion am y cymorth ariannol sy'n cael ei gadw wrth gefn i fusnesau. Eglurodd y byddai cam nesaf y cymorth yn para nes mis Ebrill ac yn darparu £70 miliwn. Cadarnhaodd y Gweinidog fod cymorth i fusnesau yn y flwyddyn ariannol nesaf yn cael sylw fel rhan o drafodaethau parhaus ar y gyllideb. Gofynnodd yr undebau llafur am iddynt gael eu cynnwys yn gynarach mewn trafodaethau. Pwysleisiodd cyflogwyr datganoledig bwysigrwydd hyblygrwydd cyllido a phwysleisiodd y sector preifat bwysigrwydd negeseuon clir. Pwysleisiodd y Gweinidog ymrwymiad Llywodraeth Cymru i Waith Teg a'r agenda datgarboneiddio i fusnesau.

 

Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol Cysgodol – 9 Rhagfyr 2021

Eitem

 

Gweinidog Arweiniol

Trafodaeth

1.

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru – I'w Drafod

 

Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Amlinellodd y Gweinidog flaenoriaethau Adolygiad o Wariant Cymru 2021 a Chyllideb Ddrafft 2022-23. Eglurodd y byddai angen gwneud penderfyniadau anodd yn sgil pwysau parhaus COVID-19 a cholli cyllid yr UE. Cadarnhaodd y Gweinidog y byddai'r Strategaeth Buddsoddi yn Seilwaith Cymru yn cael ei chyhoeddi ochr yn ochr â'r gyllideb ddrafft ac amlinellodd ei chynnwys. Gofynnodd yr undebau llafur am fwy o fanylion am y broses gyllidebol er mwyn deall blaenoriaethau Llywodraeth Cymru'n well. Tynnodd y sector preifat sylw at y pwysau sy'n wynebu busnesau yn sgil adolygiad y flwyddyn nesaf o'r cap ynni a chyfraniadau Yswiriant Gwladol cynyddol. Cododd y sector gwirfoddol bryderon ynghylch colli cyllid yr UE ac effaith hynny ar y bobl fwyaf agored i niwed. Dywedodd y Gweinidog y gallai'r aelodau droi at Gynllun Gwella'r Gyllideb i gael mwy o wybodaeth ac amlinellodd flaenoriaethau ar gyfer y dyfodol.

2.

Diweddariad ar COVID-19 - I'w Drafod

Prif Swyddog Meddygol

Cadarnhaodd y Prif Swyddog Meddygol fod amrywiolyn Delta yn parhau i fod yn sefydlog ledled Cymru ond bod achosion o amrywiolyn newydd Omicron, er eu bod yn fach o ran nifer, yn trosglwyddo ar gyfradd sylweddol. Amcangyfrifodd mai'r amrywiolyn hwn fyddai'r straen amlycaf o COVID-19 yn fuan. Tynnodd sylw at arwyddocâd y rhaglen pigiadau atgyfnerthu, yr angen i gryfhau mesurau diogelu mewn lleoliadau caeedig a sicrhau bod y system Profi, Olrhain, Diogelu yn hyblyg o hyd.

3.

COVID-19 – Cylch Adolygu 21 Diwrnod – Diweddariad – Er Gwybodaeth

Prif Weinidog

Cadarnhaodd y Prif Weinidog y byddai Llywodraeth Cymru'n newid i gylch gwneud penderfyniadau wythnosol o ganlyniad i ddifrifoldeb y sefyllfa bresennol ac y byddai'r cyhoeddiad adolygu nesaf yn cryfhau mesurau diogelwch.

Cododd yr undebau llafur faterion yn ymwneud â thâl salwch mewn gofal cymdeithasol ac effaith wahaniaethol trosglwyddiad ar grwpiau ethnig penodol. Cynigiodd y sector preifat ddatblygu datganiad ar y cyd â'r undebau llafur yn cefnogi rhoi amser i ffwrdd o'r gwaith â thâl i weithwyr er mwyn iddynt gael eu brechu. Pwysleisiodd y cyflogwyr datganoledig bwysigrwydd y system brofi er mwyn sicrhau y gallai gwasanaethau cyhoeddus barhau i weithredu. Cadarnhaodd y Prif Weinidog y byddai'r materion a godwyd ynghylch canllawiau diogelwch a gofal cymdeithasol yn cael eu hystyried gan swyddogion a bod angen gwneud mwy o waith ar effaith trosglwyddiad yn ôl ethnigrwydd.

 

 

 

 

 

 

Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol Cysgodol – 16 Rhagfyr 2021 (Cyfarfod Eithriadol)

Eitem

 

Gweinidog Arweiniol

Trafodaeth

1.

COVID-19 – Cylch Adolygu – Diweddariad – Er Gwybodaeth

 

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cadarnhaodd y Prif Swyddog Meddygol fod cyfraddau trosglwyddo Omicron yn dyblu bob dau ddiwrnod a phwysleisiodd bwysigrwydd y rhaglen pigiadau atgyfnerthu fel ffordd o atal trosglwyddiad. Pwysleisiodd y Gweinidog nad oedd neb yn gwybod pa mor ddifrifol yw Omicron ar hyn o bryd ond ei fod yn debygol o gyrraedd lefelau brig ym mis Ionawr a mis Chwefror. Eglurodd y byddai'r Cabinet yn cyfarfod i drafod pa fesurau fyddai'n cael eu rhoi ar waith ond y byddai'r rhain yn cael eu dwysáu yn y flwyddyn newydd. Cododd y Comisiynydd Hawliau Dynol bryderon ynghylch gallu preswylwyr cartrefi gofal i gael brechiadau. Galwodd yr undebau llafur am fwy o gyllid o Gronfa Cymorth Dewisol Llywodraeth Cymru ac amlinellodd cyflogwyr datganoledig y pwysau roedd hunanynysu yn ei roi ar lefelau staffio. Cadarnhaodd y sector preifat fod datganiad ar y cyd wedi cael ei gyhoeddi gan y sector busnes a TUC Cymru ynghylch pwysigrwydd caniatáu i staff gael eu brechu. Cafodd y pwysau sy'n wynebu busnesau, gofal cymdeithasol ac ysgolion ei gydnabod gan y Gweinidogion. Cadarnhawyd bod £14.7 miliwn ychwanegol wedi cael ei neilltuo i'r Gronfa Cymorth Dewisol a bod cymorth i fusnesau yn parhau i fod yn flaenoriaeth.

 

Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol Cysgodol – 22 Rhagfyr 2021

Eitem

 

Gweinidog Arweiniol

Trafodaeth

1.

Diweddariad ar COVID-19 - I'w Drafod

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Eglurodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol fod y cyfarfod hwn wedi cael ei alw er mwyn rhoi diweddariad ar y pwysau sy'n wynebu'r GIG yn sgil lefelau cynyddol amrywiolyn Omicron a'r mesurau sy'n cael eu cymryd i atal ei drosglwyddiad. 

2.

COVID-19 – Cylch Adolygu 21 Diwrnod – Diweddariad – Er Gwybodaeth

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

O ganlyniad i ddifrifoldeb y sefyllfa, amlinellodd y Gweinidog y mesurau ychwanegol i'w cyflwyno. Gofynnodd y sector preifat am fwy o eglurder ynghylch y posibilrwydd y gallai pobl gael eu dirwyo am deithio i'r gwaith yn ddiangen. Cefnogwyd hyn gan yr undebau llafur a oedd yn teimlo y byddai'r cyfyngiadau'n canolbwyntio ar weithwyr yn hytrach na chyflogwyr. Eglurodd y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol y byddai'r ffocws yn parhau ar gyflogwyr a dywedodd y Cwnsler Cyffredinol mai dim ond mewn sefyllfaoedd eithriadol y byddai'r system ddirwyo'n cael ei defnyddio ac y byddai'n diogelu ac yn grymuso cyflogeion a'u cynrychiolwyr i wrthod galwadau afresymol i fynd i mewn i'r gwaith. Galwodd y cyflogwyr datganoledig am fwy o eglurder yn y dyfodol ynghylch gweithio gartref a phrofi cysylltiadau agos.

Cadarnhawyd y byddai'r materion a godwyd yn cael eu trafod â'r Prif Weinidog a'u hystyried ymhellach.

 

 

 

Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol Cysgodol – 13 Ionawr 2022

Eitem

 

Gweinidog Arweiniol

Trafodaeth

1.

Dim agenda benodol

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Eglurodd y Prif Swyddog Meddygol fod ffigurau trosglwyddo'n symud i'r cyfeiriad cywir ond bod lefelau trosglwyddo yn y gymuned yn uchel o hyd. Amlinellodd yr effaith barhaus ar y GIG. Pwysleisiodd y Gweinidog fod angen parhau i fod yn ofalus ac amlinellodd y cyfyngiadau a fyddai'n cael eu cyhoeddi gan y Prif Weinidog y diwrnod canlynol. Dywedodd y sector preifat ei fod yn cefnogi eglurder Llywodraeth Cymru a gofynnodd pa amodau fyddai'n ysgogi camau i fyrhau'r cyfnod hunanynysu. Roedd yr undebau llafur o blaid cadw'r cyfyngiadau yn seiliedig ar dystiolaeth wyddonol. Pwysleisiodd y Gweinidog y byddai angen gwneud mwy o waith dadansoddi cyn y gellid byrhau cyfnodau hunanynysu. Cyfeiriodd yr undebau llafur at bryderon a drafodwyd yn y Fforwm Partneriaeth Ysgolion ond yn gyffredinol, roeddent yn cefnogi dull gweithredu Llywodraeth Cymru. Eglurodd y Cwnsler Cyffredinol fod y cynlluniau a amlinellwyd wedi cael eu llunio ar sail y dybiaeth y byddai cyfraddau trosglwyddo'n parhau i ostwng.

 

Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol Cysgodol – 20 Ionawr 2022

Eitem

 

Gweinidog Arweiniol

Trafodaeth

1.

Diweddariad ar COVID-19 - I'w Drafod

Prif Swyddog Meddygol

Cadarnhaodd y Prif Swyddog Meddygol fod lefelau trosglwyddo yn sylweddol ond eu bod yn gostwng. Gofynnodd yr undebau llafur am lefelau hyder yn yr ymgyrch pigiadau atgyfnerthu a ph'un a fyddai angen pedwerydd brechiad. Gofynnodd y Comisiynydd Hawliau Dynol a oedd data ar gael ynghylch cyfraddau brechu ymhlith cymunedau ethnig lleiafrifol. Cadarnhaodd y Prif Swyddog Meddygol fod lefelau uchel o hyder yn yr ymgyrch pigiadau atgyfnerthu ac eglurodd fod y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu yn teimlo nad oedd angen pedwerydd pigiad atgyfnerthu ar hyn o bryd. Cadarnhaodd y Prif Swyddog Meddygol y byddai'n darparu data ar lefelau brechu ymhlith grwpiau ethnig lleiafrifol a grwpiau anabl.

2.

COVID-19 – Cylch Adolygu 21 Diwrnod – Diweddariad – Er Gwybodaeth

Prif Weinidog

Amlinellodd y Prif Weinidog fanylion y cyhoeddiad adolygu y byddai'n ei wneud y diwrnod canlynol. Dywedodd unwaith eto fod y safbwynt presennol yn seiliedig ar effeithiolrwydd y rhaglen frechu a'r ffaith bod lefelau trosglwyddo yn is yng Nghymru nag yn unrhyw le arall yn y DU. Mynegodd yr undebau llafur a Chomisiynydd Plant Cymru bryderon ynghylch codi'r cyfyngiadau mewn ysgolion a chydnabu'r Prif Weinidog ei bod yn bwysig bod yn ofalus a dilyn y cyngor gwyddonol. 

3.

Diweddariad ar Gymorth i Fusnesau – Er Gwybodaeth

Gweinidog yr Economi

Amlinellodd y Gweinidog gyllid blaenorol a roddwyd i fusnesau ac eglurodd y byddai awdurdodau lleol hefyd yn darparu cronfa ddewisol. Amlinellodd rai manylion ynghylch hyn ac effaith penderfyniadau Llywodraeth y DU ar gyllid Llywodraeth Cymru. Pwysleisiodd y sector preifat fod negeseuon cadarnhaol yn bwysig er mwyn codi hyder busnesau a gofynnodd yr undebau llafur pa gyllid fyddai ar gael i'r sector diwylliannol. Cydnabu'r Gweinidog fod negeseuon cadarnhaol yn bwysig a chadarnhaodd fod trafodaethau'n mynd rhagddynt â'r sector diwylliannol. Cyfeiriodd y Gweinidog at y Papur Gwyn disgwyliedig ar ffyniant bro gan Lywodraeth y DU a'r cyfyngiadau tebygol ar unrhyw gyllid newydd ond croesawodd drafodaeth bellach ag aelodau. Tynnodd yr undebau llafur sylw at effaith yr argyfwng costau byw ac amlinellodd y Gweinidog a'r Prif Weinidog ddull gweithredu Llywodraeth Cymru ond pwysleisiwyd effaith y penderfyniadau ariannol a oedd yn cael eu gwneud gan Lywodraeth y DU.

Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol Cysgodol – 10 Chwefror 2022

Eitem

 

Gweinidog Arweiniol

Trafodaeth

1.

Diweddariad ar COVID-19 - I'w Drafod

 

Prif Weinidog

Eglurodd y Prif Weinidog y byddai eitem ddynodedig yn cael ei chynnwys fel rhan o gyfarfodydd nesaf y Cyngor i drafod effaith hirdymor COVID-19 ar feysydd portffolio allweddol. Cadarnhaodd y Prif Swyddog Meddygol fod lefelau trosglwyddo a derbyniadau i ysbytai yn uchel ond yn sefydlog o hyd ac nad oedd unrhyw amrywiolion newydd yn peri pryder. Gofynnodd y cyflogwyr datganoledig a fyddai rhaglen pigiadau atgyfnerthu blynyddol yn debygol o gael ei rhoi ar waith. Cadarnhaodd y Prif Swyddog Meddygol y byddai'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu yn rhoi cyngor ar hyn yn fuan ond nad oedd hyn yn debygol o gael ei roi ar waith yn syth.

2.

Cylch Adolygu COVID-19 - Diweddariad – Er Gwybodaeth

 

Prif Weinidog

Cadarnhaodd y Prif Weinidog fod trafodaethau yn y Cabinet wedi canolbwyntio ar symud y tu hwnt i Lefel Rhybudd Sero gan newid o ddull gweithredu gorfodol i ddull gweithredu cynghorol mewn perthynas â chyfyngiadau. Darparodd y Prif Weinidog fwy o fanylion am feysydd penodol. Gofynnodd y partneriaid cymdeithasol am eglurder ynghylch y gofyniad i weithio gartref. Eglurodd y Prif Weinidog mai cyngor fyddai hwn nawr ond mai dyma un o'r ffyrdd gorau o atal trosglwyddiad o hyd. Eglurodd yr undebau llafur fod rhai o swyddfeydd Llywodraeth y DU yng Nghymru yn rhoi pwysau ar staff i ddod i mewn i'r gwaith. Cadarnhaodd y Prif Weinidog ei fod wedi ysgrifennu ynghylch y mater hwn a bod yn rhaid i adrannau Llywodraeth y DU yng Nghymru ddilyn rheoliadau Cymru.  

3.

Effaith hirdymor COVID-19 – Y GIG - I'w Drafod

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Pwysleisiodd y Gweinidog fod Llywodraeth Cymru wedi monitro niwed tymor hwy COVID-19 wrth iddi ymateb i'r pandemig. Pwysleisiodd faint yr her sy'n ein hwynebu gan gynnwys yr angen i leihau'r ôl-groniad sy'n aros am driniaeth gan y GIG. Pwysleisiodd y Gweinidog bwysigrwydd mynd i'r afael â'r anghydraddoldebau iechyd a gafodd eu dwysáu gan y pandemig drwy'r Grŵp Anghydraddoldebau Iechyd newydd ac amlinellodd gyllid yn y dyfodol ar gyfer iechyd. Pwysleisiodd y sector gwirfoddol y rôl bwysig y gallai ei chwarae yn y dyfodol a chafodd hyn ei gydnabod gan y Gweinidog. Tynnodd y Gweinidog sylw hefyd at yr angen i gysylltu gofal cymdeithasol a'r GIG a'i bod yn trafod hyn â'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol.

Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol Cysgodol – 3 Mawrth 2022

Eitem

 

Gweinidog Arweiniol

Trafodaeth

1.

Diweddariad ar COVID-19 - I'w Drafod

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Dr Fu-Meng Khaw, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Gwasanaethau Diogelu Iechyd a Sgrinio, Iechyd Cyhoeddus Cymru

Tynnodd y Gweinidog sylw at bwsigrwydd y rhaglen frechu o ran atal trosglwyddiad wrth symud tuag at Lefel Rhybudd Sero a chadarnhaodd y cafodd Strategaeth Frechu Llywodraeth Cymru ei chyhoeddi ar 24 Chwefror. Cadarnhaodd Dr Fu-Meng Khaw fod cyfraddau trosglwyddo a derbyniadau i ysbytai wedi parhau i ostwng ledled Cymru ac mai Omicron oedd yr amrywiolyn amlycaf bellach. Amlinellodd yr effaith ar y GIG yn ogystal â gwaith cynllunio ar gyfer newid o'r cam pandemig i'r cam endemig. Pwysleisiodd y sector preifat effeithiolrwydd Profion Llif Unffordd a'r angen iddynt barhau i fod am ddim. Pwysleisiodd y cyflogwyr datganoledig yr angen i feithrin capasiti brechu ychwanegol pe bai amrywiolion newydd pryderus yn dod i'r amlwg. Amlinellodd Dr Fu-Meng Khaw waith parhaus i sicrhau bod capasiti profi'n cael ei gynnal a chymeradwyodd y Profion Llif Unffordd.

2.

COVID-19 – Cylch Adolygu – Diweddariad – Er Gwybodaeth

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cadarnhaodd y Gweinidog y byddai Llywodraeth Cymru, y diwrnod canlynol, yn cyhoeddi ei chynllun pontio gan amlinellu'r dull gweithredu ar gyfer cam endemig COVID-19. Eglurodd y byddai'r cynllun hwn yn cynnig dau senario – Sefydlog a Brys. Pwysleisiodd y Gweinidog bwysigrwydd diogelu pobl sy'n agored i niwed a'r rhaglen frechu. Cadarnhaodd y byddai pigiadau atgyfnerthu'n cael eu cynnig yn ystod y gwanwyn a'r hydref i grwpiau penodol ac amlinellodd y manylion ynghylch profi yn y dyfodol. Cadarnhaodd y Gweinidog y byddai'r rhan fwyaf o ddarpariaethau datganoledig Deddf y Coronafeirws yn dod i ben ar 24 Mawrth. Gofynnodd yr undebau llafur pryd y byddai'r cyngor i weithio gartref yn dod i ben a mynegwyd pryderon am ba mor gyflym y datblygwyd y cynllun pontio. Eglurodd y Gweinidog y rhesymau dros hyn a rhoddodd sicrwydd fod safbwyntiau'r partneriaid cymdeithasol wedi cael eu hystyried.

 

Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol Cysgodol – 24 Mawrth 2022

Eitem

 

Gweinidog Arweiniol

Trafodaeth

1.

Diweddariad ar COVID-19 - I'w Drafod

Prif Swyddog Meddygol

Eglurodd y Prif Swyddog Meddygol fod lefelau trosglwyddo, yn ôl y disgwyl, yn parhau i fod yn uchel a'u bod yn cynyddu. Amlinellodd y prif resymau ac eglurodd fod derbyniadau i ysbytai wedi cynyddu'n sydyn ond nad oedd hyn wedi effeithio ar ofal dwys. Cadarnhaodd y Prif Swyddog Meddygol fod ymgyrch pigiadau atgyfnerthu yn debygol o gael ei chynnal yn yr hydref. Gofynnodd y sector preifat a oedd cyfnodau'r gwanwyn a'r haf wedi cael eu cynnwys fel rhan o amcanestyniadau ynghylch lefelau trosglwyddo yn y dyfodol. Eglurodd y Prif Swyddog Meddygol fod disgwyl i lefelau trosglwyddo ostwng drwy gydol yr haf cyn cynyddu yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Yna, amlinellodd y Prif Swyddog Meddygol y gwaith gwyliadwriaeth parhaus sy'n mynd rhagddo mewn perthynas â COVID-19.

2.

COVID-19 – Cylch Adolygu – Diweddariad – Er Gwybodaeth

Prif Weinidog

Cadarnhaodd y Prif Weinidog fod y Cabinet wedi cyfarfod yn gynharach ac eglurodd, er bod modd ymdopi â lefelau trosglwyddo, fod yr effaith ar y GIG yn sylweddol. Cadarnhaodd y byddai angen gwisgo gorchuddion wyneb mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol o hyd ac y byddai asesiadau risg COVID-19 mewn gweithleoedd yn parhau am y 3 wythnos nesaf. Pwysleisiodd y sector preifat ei ymrwymiad parhaus i ddiogelwch yn y gweithle. Pwysleisiodd y cyflogwyr datganoledig yr effaith yr oedd absenoldeb yn sgil hunanynysu yn ei chael ar wasanaethau llywodraeth leol. Amlinellodd yr undebau llafur bryderon ynghylch canllawiau ar gyfer gweithleoedd a gofynnwyd pa gyngor fyddai'n cael ei roi i gyflogwyr pan fyddai cyfyngiadau'n cael eu codi. Amlinellodd y Prif Weinidog ddarpariaethau ar gyfer y cyfnod ar ôl 28 Mawrth a phwysleisiodd fod y ffliw yn ystod y gaeaf ar ôl cyfnodau estynedig o ynysu yn peri mwy o fygythiad.

3.

Effaith hirdymor COVID-19 – Yr Economi - I'w Drafod

Gweinidog yr Economi

Amlinellodd y Gweinidog effaith bresennol y pandemig, ein hymadawiad o'r Undeb Ewropeaidd, yr argyfwng costau byw a setliad Llywodraeth y DU ar economi Cymru. Pwysleisiodd bwysigrwydd datblygu sgiliau yng Nghymru, gan gynnwys cynnydd mewn prentisiaethau. Amlinellodd y sector preifat ei ymrwymiad i gefnogi staff ac awgrymodd y gellid datblygu enghreifftiau o arferion gorau. Tynnodd yr undebau llafur sylw at arferion negyddol rhai cyflogwyr ac anghenion gweithwyr sy'n agored i niwed. Cefnogodd y Gweinidog gynigion i ddatblygu enghreiffitau o arferion gorau i fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw a phwysleisiodd wrthwynebiad Llywodraeth Cymru i arferion gweithio anfoesol.

 

Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol Cysgodol – 13 Ebrill 2022

Eitem

 

Gweinidog Arweiniol

Trafodaeth

1.

Diweddariad ar COVID-19 - I'w Drafod

Prif Swyddog Meddygol

Cadarnhaodd y Prif Swyddog Meddygol fod lefelau trosglwyddo'n parhau i fod yn uchel, fel y gwelir yng ngweddill y DU, ond nad oedd hyn wedi effeithio ymhellach ar y GIG o ganlyniad i'r rhaglen frechu. Eglurodd y gallai fod angen ymgyrch pigiadau atgyfnerthu arall yn ddiweddarach yn y flwyddyn ond y byddai hyn yn dibynnu ar gyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu. Amlinellodd y Prif Swyddog Meddygol 3 blaenoriaeth allweddol, gan gynnwys y gwaith gwyliadwriaeth COVID-19 a oedd yn cael ei ddatblygu. Tynnodd y Comisiynydd Hawliau Dynol sylw at anghenion blaenoriaethol pobl dros 75 oed a phobl sy'n agored i niwed. Cadarnhaodd y Prif Swyddog Meddygol y byddai Cymru'n dilyn canllawiau'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu o ran blaenoriaethu brechiadau. 

2.

COVID-19 – Cylch Adolygu – Diweddariad – Er Gwybodaeth

Y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad

Eglurodd y Gweinidog fod y Cabinet wedi penderfynu y dylai gorchuddion wyneb barhau i fod yn orfodol mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol ond na fyddai'r gofyniad i gynnal asesiadau risg COVID-19 gorfodol yn y gweithle yn gymwys mwyach. Yn y dyfodol, pwysleisiodd y Gweinidog mai'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ac awdurdodau lleol fyddai'r prif gyrff a fyddai'n gyfrifol am sicrhau cydymffurfiaeth â rheoliadau yn y gweithle.

3.

Effaith hirdymor COVID-19 – Gwasanaethau Cymdeithasol - I'w Drafod

 

Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

Eglurodd y Dirprwy Weinidog fod y pandemig wedi dwysáu gwendidau a oedd yn bodoli eisoes ym maes gofal cymdeithasol. Cyfeiriodd at brinder staff ac ymdrechion i recriwtio staff i'r sector ac ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyflwyno cyflog byw gwirioneddol ar gyfer gofal cymdeithasol. Amlinellodd y Dirprwy Weinidog gyllid a mwy o gymorth ar-lein i weithwyr gofal cymdeithasol. Cadarnhaodd fod gwasanaethau plant wedi aros yn gymharol sefydlog drwy gydol y pandemig a phwysleisiodd ei hymrwymiad i sicrhau bod cartrefi gofal i oedolion yn dychwelyd i normalrwydd yn gyflym. Pwysleisiodd yr undebau llafur ei bod yn bwysig bod y gweithlu gofal cymdeithasol yn perthyn i undeb a chadarnhaodd y Dirprwy Weinidog y byddai'n trafod hyn ymhellach â nhw. Gofynnodd y Comisiynydd Plant a oedd defnyddio gorchuddion wyneb mewn cartrefi plant wedi cael ei ystyried ac eglurodd y Dirprwy Weinidog y byddai hyn yn cael ei drafod fel rhan o waith ymgysylltu parhaus â phartneriaid cymdeithasol. 

 

Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol Cysgodol – 14 Gorffennaf 2022

Eitem

 

Gweinidog Arweiniol

Trafodaeth

1.

Cyflawniadau'r Cyngor a Gwersi a Ddysgwyd – I'w Drafod

 

Y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol

Eglurodd y Dirprwy Weinidog mai hwn fyddai cyfarfod olaf y Cyngor ar ei ffurf bresennol a sefydlwyd i fynd i'r afael â her COVID-19 a diolchodd i'r aelodau am eu cyngor drwy gydol y pandemig. Cydnabu'r undebau llafur fod y cyfarfodydd rheolaidd drwy gydol y pandemig, y gallu i gael trafodaethau hynod agored a rhoi cyngor wedi bod yn ddefnyddiol. Fodd bynnag, roeddent o'r farn nad oeddent wedi cael digon o amser i wneud hynny bob amser. Roedd y Cyngor wedi atgyfnerthu cydberthnasau â chyflogwyr, yn eu barn nhw. Eglurodd y Dirprwy Weinidog na fu digon o amser bob tro i ymgynghori'n llawn â phartneriaid cymdeithasol. Pwysleisiodd y sector gwirfoddol ei bod yn bwysig parhau i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol er mwyn ateb yr heriau sydd i ddod. Teimlai'r sector preifat fod cydberthnasau wedi cael eu hatgyfnerthu a bod penderfyniadau wedi cael eu gwneud yn gyflym ond roedd o'r farn bod angen ffocws strategol o'r newydd ar gyfer unrhyw fforwm a gaiff ei addasu at ddiben arall. Roedd Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru hefyd o'r farn bod partneriaethau wedi cael eu hatgyfnerthu ond pwysleisiodd fod angen dadansoddiad manylach o heriau hirdymor.

2.

Trefniadau Pontio'r Cyngor a'r Camau Nesaf – Er Gwybodaeth

 

Y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol

Ailbwysleisiodd y Dirprwy Weinidog ei bod yn bwysig i'r Cyngor newid i ddull gweithredu newydd ar ôl y pandemig. Er nad oedd am ragdybio'r Senedd, eglurodd y Dirprwy Weinidog y byddai'n bwysig cael corff a allai drafod agweddau allweddol ar y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru). Cadarnhaodd y byddai corff newydd, sef y Fforwm Partneriaeth Gymdeithasol, yn cael ei sefydlu ar gyfer yr hydref ac y byddai swyddogion yn darparu mwy o fanylion maes o law.

3.

Trosglwyddiad COVID-19 - Er Gwybodaeth 

 

Dirprwy Brif Swyddog Meddygol

Cadarnhaodd y Dirprwy Brif Swyddog Meddygol fod cyfraddau heintio wedi bod yn cynyddu ond mai dim ond lefelau cymharol isel o niwed difrifol a gofnodwyd. Eglurodd fod amrywiolyn Omicron yn fwy trosglwyddadwy nag amrywiolion blaenorol ond nad oedd yn glir pryd y byddai'n cyrraedd lefelau brig. Rhybuddiodd y Dirprwy Weinidog na ddylid bod yn hunanfodlon a gofynnodd i'r aelodau barhau i hyrwyddo negeseguon iechyd a diogelwch drwy eu rhwydweithiau. Gofynnodd yr undebau llafur am fwy o wybodaeth am raglenni brechu rhag y ffliw a COVID-19 wrth edrych tuag at yr hydref. Eglurodd y Dirprwy Brif Swyddog Meddygol y byddai pobl dros 50 oed yn debygol o gael cynnig pigiad atgyfnerthu ac byddai'r rhai â chyflyrau cronig yn debygol o gael brechiadau tymhorol eraill.

4.

 

Diweddariad ar y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) – Er Gwybodaeth

 

Y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol

Cadarnhaodd y Dirprwy Weinidog fod y Bil wedi cael ei gyflwyno i'r Senedd ar 7 Mehefin. Dywedodd unwaith eto mai ei nod yw rhoi statws statudol i bartneriaeth gymdeithsol ac amlinellodd y dystiolaeth yr oedd wedi'i rhoi i bwyllgorau Seneddol amrywiol. Cadarnhaodd y Dirprwy Weinidog fod y dystiolaeth a gyflwynwyd yn awgrymu bod cefnogaeth glir ymhlith partneriaid cymdeithasol dros yr angen am ddeddfwriaeth a'u bod eisoes yn ymgysylltu â gwaith Bwrdd Rhaglen newydd a sefydlwyd gan swyddogion i oruchwylio'r broses o greu'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol statudol newydd a gweithredu'r dyletswyddau a nodir yn y Bil. Dywedodd y Dirprwy Weinidog yr hoffai gofnodi bod Llywodraeth Cymru'n gwerthfawrogi'r cyngor a roddwyd a'r cyfraniadau a wnaed gan yr aelodau drwy gydol pandemig COVID-19.